Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 2 Mai 2018.
Diolch am yr ateb hwnnw. A oes modd i chi amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu yw goblygiadau potensial y comisiwn? Rydw i ar ddeall bod y gwaith yn digwydd ar hyn o bryd, ond a oes gennych chi gysyniad o’r hyn rydych chi eisiau ei gael mas ohono fe? Er enghraifft, a fyddech chi eisiau datganoli cyfiawnder yn y dyfodol? Un o’r problemau sydd yn fy meddwl i—rwy'n credu fy mod i wedi codi hyn o’r blaen—yw, os byddai yna ddatganoli cyfiawnder i Gymru, byddai yna sefyllfa lle, os oes yna garchardai newydd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, efallai y byddai carcharorion o rywle arall, sef Lloegr, yn cael eu rhoi yma yng Nghymru. Pa mor realistig, felly, yw datganoli cyfiawnder os bydd un gyfundrefn yn bodoli ar gyfer Cymru, a'r bobl hynny yn dod o gyfundrefn wahanol? A ydych chi wedi edrych ar y goblygiadau a realiti'r sefyllfa yn hynny o beth?