Y Ddadl ar Adroddiad Ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 2 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:30, 2 Mai 2018

Diolch am yr ymateb yna. Mi fydd y record yn dangos, wrth gwrs, na wnaeth y Cynulliad ildio i'r bygythiad o her gyfreithiol ar y pryd, ac yn wir na wnaeth y Llywodraeth fwrw ymlaen i wireddu'r bygythiad o lansio her gyfreithiol. Dadlau a wnaeth y Llywodraeth, a chithau, ar y pryd, y buasai cynsail perig yn cael ei sefydlu yma. Ond y gwir amdani ydy bod yna ddigon o gynseiliau mewn arferion seneddol yn rhyngwladol yn bodoli yn barod, lle y gall Seneddau fynnu cyhoeddi adroddiadau pwysig.

Wrth gwrs, mae yna adroddiad arall ar y gweill, yn delio â'r un amgylchiadau—amgylchiadau trist iawn, wrth reswm. Beth ydy eich cyngor chi, felly, i'r Prif Weinidog ar yr angen i symud mor fuan â phosib i gyhoeddi manylion cylch gorchwyl yr ymchwiliad arall hwnnw?