Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 2 Mai 2018.
Wel, nid wyf i'n mynd i sôn am unrhyw gyngor penodol rwy'n ei roi i unrhyw ran o'r Llywodraeth am y materion yma. Bydd yr Aelod yn deall pam mae hynny yn amhosibl i fi ei wneud. Fe wnaeth e sôn am y ddadl yn benodol. Fe wnaf i ei gyfeirio fe at adran 41 o'r Ddeddf, sydd yn rhagweld ei bod hi'n bosib i'r Llywodraeth neu'r Cynulliad, neu'r ddau ar y cyd, fynd i'r llys i gynnig am ddatganiad i esbonio rhannau o'r Ddeddf sydd yn aneglur neu sydd angen dadansoddiad cyfreithiol. Felly, mae'r Ddeddf ei hun yn rhagweld hynny yn bosibiliad.
Roedd hi'n glir yn y drafodaeth ar y diwrnod hwnnw mai cwestiwn ehangach oedd gan y Llywodraeth mewn golwg na'r cwestiwn penodol ynglŷn â'r adroddiad hwnnw. Ac mae'r Aelod yn sôn am bwysigrwydd sefydlu dealltwriaeth rhwng y Llywodraeth a'r Cynulliad, neu unrhyw ddeddfwrfa, ynglŷn â'r materion pwysig hyn. Yn Senedd San Steffan, er enghraifft, mae'r rheolau yn wahanol, oherwydd nid sefydliad statudol yw Senedd San Steffan, ond sefydliad sydd yn deillio o'r gyfraith gyffredin ac ati. Felly, mae'r rheolau yn wahanol, ac mae'r dull o weithredu'n wahanol, ac mae'r ymgais sydd gyda ni ar y gweill nawr i drafod y materion hyn gyda'r Cynulliad, gyda'r Llywydd, yn ffordd, os liciwch chi, drwy greu protocol, o sefydlu ffyrdd o weithredu sydd yn delio â'r un mathau o sialensiau ag y mae San Steffan a deddfwriaethau eraill wedi llwyddo i ddelio â nhw yn barod erbyn hyn.