2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 2 Mai 2018.
7. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r rhwystrau cyfreithiol sy'n atal Llywodraeth Cymru rhag ceisio datganoli pwerau deddfwriaethol sy'n ymwneud â lles a diogelwch cymdeithasol? OAQ52097
Bydd yr Aelodau'n gwybod bod nawdd cymdeithasol yn fater a gadwyd yn ôl o dan ein setliad datganoli. Byddai dileu neu addasu'r cymal cadw hwn yn galw naill ai am Ddeddf Senedd y DU neu Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor. Felly byddai angen i Lywodraeth y DU gytuno'r newid hwn.
Diolch ichi am yr ymateb. Ac fel sydd wedi bod yn thema i'r cwestiynau heddiw, yr wythnos diwethaf, gwnaeth eich Llywodraeth gytundeb gyda'r Ceidwadwyr yn San Steffan, lle y cytunoch chi gyda hwy yn y bôn, ac ymddiried ynddynt i beidio ag ymyrryd mewn materion datganoledig ar bwerau sy'n dychwelyd o Frwsel. Ac eto, dro ar ôl tro yn y Senedd hon, ac mewn mannau eraill, mae Aelodau o'r Llywodraeth Lafur wedi gwrthod pwyso droeon am ddatganoli lles a budd-daliadau, ar y sail nad ydynt yn ymddiried yn y Torïaid i gyflawni ymrwymiadau unrhyw gytundeb y gellid ei drefnu i hwyluso hynny. Mae Aelodau o'r Llywodraeth hon yn y gorffennol wedi honni nad oes gan Lywodraeth yr Alban, er enghraifft, bwerau gweinyddol mewn perthynas â datganoli rhai o'u pwerau lles, a gwyddom nad yw hynny'n wir, wrth gwrs, oherwydd y fframwaith cyllidol. O ystyried y ffaith bod y cytundeb hwn wedi'i wneud yr wythnos diwethaf, pam nad oes modd ei wneud mewn perthynas â lles?
A gaf fi wneud un pwynt yn glir wrth gyfeirio at y cytundeb? Mae hwn yn gytundeb sy'n dod â mwy o bwerau i'w harfer yng Nghymru nag yn y gorffennol. Nid wyf am weld y syniad yn gwreiddio bod hyn mewn unrhyw ffordd yn gyfystyr â rhoi pwerau yn ôl neu'n ymddiried yn y Ceidwadwyr i beidio â cheisio mwy o bwerau. Mae gwrthdroi cymal 11, a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban drwy negodi gyda Llywodraeth y DU, wedi golygu bod mwy o bwerau'n cael eu harfer yn y Cynulliad a chan Lywodraeth Cymru nag o'r blaen. Felly, mae hynny'n gwbl allweddol i'r drafodaeth hon.
Fel y mae'n gwybod—a chyfeiriaf yn ôl at y ddadl a gyflwynodd Plaid Cymru gerbron y Cynulliad fis Hydref y llynedd, dadl y cymerais ran ynddi cyn imi ymuno â'r Llywodraeth—mae datganoli budd-daliadau lles, sydd wedi digwydd yn yr Alban, fel y nododd yn ei chwestiwn, i bob pwrpas wedi trosglwyddo'r risg ariannol sy'n gysylltiedig â'r galw am fudd-daliadau i'r pwrs cyhoeddus yn yr Alban. I Gymru, barn y Llywodraeth yw y byddai hynny'n achosi risg ariannol sylweddol iawn ac yn ogystal â hynny, byddai'r costau sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r system les yn mynd ag adnoddau o'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Rydym yn gwybod bod y costau ar gyfer yr Alban wedi bod yn sylweddol iawn, gan gynnwys £66 miliwn ar gyfer gweinyddu a thaliad untro o £200 miliwn ar gyfer gweithredu. Mae'r arian hwnnw'n arian y dylid ei ddefnyddio ar y rheng flaen. Ein barn ni yn Llywodraeth Cymru yw y dylem weld cytundeb lles a chytundeb nawdd cymdeithasol gwell i holl breswylwyr y DU, ac rydym yn ystyried honno'n ymagwedd gwbl sylfaenol tuag at gyfiawnder cymdeithasol, nid yn unig yng Nghymru ond ym mhob rhan o'r DU.
David Rees. [Anghlywadwy.]. Na, iawn, diolch. Cwestiwn 8, felly—Lee Waters.