Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 2 Mai 2018.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod ein Llywydd bob amser yn ceisio bod yn ddiduedd yn ei rôl yn y Siambr hon. Fodd bynnag, efallai y bydd yn ei chael hi'n anodd eithriadol i gynnal y safon honno ddydd Sul pan fydd tîm pêl-droed Aberystwyth yn chwarae Nomads Cei Connah yn 131ain rownd derfynol Cwpan Cymru JD. Edrychaf ymlaen at fynychu'r gêm derfynol gyda'r Aelod dros Geredigion ac rwyf am roi amser heddiw i longyfarch y ddau dîm ar eu cyflawniadau hyd yma ac am eu cyfraniad i'w dwy gymuned—eu cymunedau arbennig. Ond wrth gwrs, rwy'n gobeithio gweld y Nomads yn dod â'r cwpan yn ôl i Gei Connah ddydd Sul. Diolch.