– Senedd Cymru am 2:47 pm ar 2 Mai 2018.
Symudwn ymlaen at eitem 4, sef y datganiadau 90 eiliad, a galwaf ar Jack Sargeant.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod ein Llywydd bob amser yn ceisio bod yn ddiduedd yn ei rôl yn y Siambr hon. Fodd bynnag, efallai y bydd yn ei chael hi'n anodd eithriadol i gynnal y safon honno ddydd Sul pan fydd tîm pêl-droed Aberystwyth yn chwarae Nomads Cei Connah yn 131ain rownd derfynol Cwpan Cymru JD. Edrychaf ymlaen at fynychu'r gêm derfynol gyda'r Aelod dros Geredigion ac rwyf am roi amser heddiw i longyfarch y ddau dîm ar eu cyflawniadau hyd yma ac am eu cyfraniad i'w dwy gymuned—eu cymunedau arbennig. Ond wrth gwrs, rwy'n gobeithio gweld y Nomads yn dod â'r cwpan yn ôl i Gei Connah ddydd Sul. Diolch.
Diolch. Rwy'n siŵr y byddai'r Llywydd am ymestyn ei dymuniadau am gêm dda i'r ddau dîm. Mae'n arddangos pêl-droed uwch gynghrair Cymru ar ei orau. Rwy'n drist nad yw'r unig dîm yn uwch gynghrair Cymru yr wyf fi erioed wedi bod eisiau ei gefnogi yn cymryd rhan yn y rownd derfynol honno eleni, ond yn y blynyddoedd sydd i ddod, rwy'n gobeithio y gallaf godi i wneud datganiad tebyg i longyfarch neu gefnogi'r tîm hwnnw. Edrychaf ymlaen at y gêm, fel y Llywydd rwy'n siŵr, ac fel Aelodau eraill. Diolch yn fawr iawn am dynnu sylw ati, ac fel y dywedaf, gobeithio bod hynny'n rhyngu bodd y Llywydd ar gyfer yn ddiweddarach yn y trafodion. Diolch.