Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 2 Mai 2018.
—yn enwedig gan nad oes neb arall yn debygol o wneud y pwyntiau hyn.
Yn yr achos hwn, mae'r sefyllfa yn waeth byth oherwydd bod y sgwrs wedi'i chofnodi yn ddirgel gan rywun a oedd ar y pryd yn gyfaill personol agos, ond maes o law daeth yn bennaeth staff Michelle Brown a gafodd ei ddiswyddo wedi hynny am gamymddwyn, gan gynnwys torri cyfrinachedd, ac aeth ati'n faleisus i gyhoeddi'r recordiad fel gweithred o ddial.
Nawr, mewn byd lle mae technoleg gwyliadwriaeth ym mhobman, mae derbyn y math hwn o dystiolaeth mewn achos disgyblu yn creu peryglon amlwg yn ymwneud â thwyllo rhywun i wneud rhywbeth a rhagfarn, ac nid yn unig mewn perthynas â geiriau. Ni fyddai deunydd o'r fath yn dderbyniadwy yn gyffredinol fel tystiolaeth erlyn mewn llys barn, ac yn wir gallai fod yn torri hawliau o dan erthygl 8 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, yr hawl i breifatrwydd yn eich bywyd preifat, ac mae ACau yn haeddu'r un amddiffyniad yn fy marn i o dan ein rheolau gweithdrefnau yma ag y byddai'r gyfraith yn ei roi iddynt y tu allan.
Nid yw Tŷ'r Cyffredin yn honni unrhyw hawl i sensro sgyrsiau preifat ASau. Yn wir, nid yw hyd yn oed yn honni'r hawl i gosbi ASau am y sylwadau mwyaf ffiaidd a cywilyddus yn gyhoeddus, fel John McDonnell a oedd yn cellwair, mae'n debyg, am Esther McVey, pan ddywedodd, 'Pam nad ydym yn lynsio'r bastard?'—jôc oedd honno. Emma Dent Coad, yr AS Llafur dros Kensington, a ddisgrifiodd Shaun Bailey, aelod Ceidwadol du o Gynulliad Llundain fel 'bachgen geto symbolaidd' a 'gwehilyn sy'n sbwnjo' ac a aeth ati'n hapus braf i osod ar y rhyngrwyd—[Torri ar draws.]—ailgynllun o logo'r goeden Dorïaidd gyda rhywun du yn hongian oddi arni.