Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 2 Mai 2018.
Nid wyf yn meddwl byddai'n broffidiol, Madam Ddirprwy—bron imi ddweud 'Ddirprwy Lefarydd'—Ddirprwy Lywydd, i mi ildio ar y pwynt hwn.
Credaf fod yr hyn a ddywedodd Cadeirydd dros dro y pwyllgor yn fater difrifol: fod y cod ymddygiad yn berthnasol i'r Aelodau bob amser, yn eu bywydau cyhoeddus a'u bywydau preifat, ym mhob amgylchiad. Mae hyn, mi gredaf, yn ddatblygiad syfrdanol a sinistr fod y Cynulliad yn ceisio'r hawl i blismona bywydau preifat Aelodau'r Cynulliad, i'w sensro ac yn wir, yn y pen draw, i'w cosbi am ddwyn anfri ar y Cynulliad. Nid wyf yn credu bod anfri'n cael ei ddwyn ar y Cynulliad gan unrhyw beth y mae unrhyw un yn ei ddweud y tu allan i'r lle hwn. Mae gennym oll gyfrifoldeb dros ein geiriau a'n gweithredoedd mewn mannau eraill, ac nid wyf yn credu fy mod wedi fy llygru gan weithredoedd neu eiriau neb arall yn y Cynulliad hwn, a chredaf y dylai pawb arall goleddu'r un safbwynt cyffredinol. Wedi'r cyfan, mae beth sy'n dwyn anfri ar y Cynulliad yn rhywbeth sy'n rhaid ei ystyried yn oddrychol iawn.
Yn yr adroddiad, rwy'n gresynu at y ffaith nad oes unrhyw wrthateb manwl nac unrhyw wrthateb yn wir i'r dadleuon a gyflwynais ar ran Michelle Brown fel ei heiriolwr ar gyfer y pwyllgor. Rwy'n ddiolchgar fod y pwyllgor wedi caniatáu imi wneud hynny. Nid wyf yn ceisio amddiffyn y defnydd o'r gair 'coconyt'. Ymddengys ei fod mewn defnydd eang, ond dengys y ddogfen a ddosbarthais yn gynharach y nifer enfawr o enghreifftiau o ddefnydd sarhaus iawn o'r gair 'coconyt' gan aelodau neu gefnogwyr y Blaid Lafur. Nid wyf yn gwybod a oedd y grŵp Llafur, a wnaeth y gŵyn yn erbyn Michelle Brown, nid fel unigolion ond fel grŵp, wedi gwneud unrhyw gwynion am hiliaeth yn y Blaid Lafur, gwrth-Semitiaeth yn y Blaid Lafur, a'r pethau ffiaidd a chywilyddus sy'n cael eu dweud, nid mewn sgyrsiau preifat, ond yn gyhoeddus ac sy'n destun ymfalchïo—