Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 2 Mai 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siarad yma heddiw fel rhywun sydd wedi ymdrin â hiliaeth yn y rheng flaen, wrth dyfu fyny a hyd heddiw. Caf fy marnu. Cefais fy marnu oherwydd y ffordd rwy'n edrych, oherwydd fy mam, fy nhad, fy neiniau a fy nheidiau, fy nghyfansoddiad ethnig. Mae'n gas gennyf hiliaeth. Mae'n atgas i mi. Heddiw, rydym yma i wneud penderfyniad i daflu Aelod o'r Cynulliad hwn allan, Aelod a etholwyd yn ddemocrataidd. Gwnaeth Michelle Brown sylw hiliol yn breifat. Roedd hi'n siarad yn breifat ar y ffôn heb wybod ei bod yn cael ei recordio, yn cael sgwrs gyda pherson a oedd yn hoffi'r hyn a ddywedodd ddigon iddo benderfynu gweithio iddi. Nid wyf yn meddwl ei bod yn iawn i mi, fel cynrychiolydd o Ganol De Cymru, bleidleisio dros wahardd Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru. Mae gennym drefn ar gyfer penderfynu pwy a ddylai a phwy na ddylai fod yn Aelod Cynulliad, a'r enw arno yw etholiad.