Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 2 Mai 2018.
Mae'n bleser codi i siarad o blaid y cynnig heddiw. Mae hyn yn wirioneddol bwysig, yn cyffwrdd ar sut y gallwn sicrhau urddas merched a menywod ifanc yn ysgolion Cymru.
Mae data Plan International UK yn dangos sut y mae llawer gormod o fenywod ifanc yn cael trafferth i dalu'r gost am gynhyrchion misglwyf. Mae'r elusen wedi dangos effaith ofnadwy hyn hefyd. Roedd bron i hanner y merched a holwyd wedi colli diwrnod cyfan o ysgol oherwydd eu misglwyf. Mae 64 y cant yn colli gwersi addysg gorfforol, ac mae merched a menywod ifanc yn gorfod dweud celwydd oherwydd embaras.
Mae hwn yn fater y deuthum ar ei draws yn uniongyrchol, mewn rôl fugeiliol mewn ysgol uwchradd. Nid yw'n iawn fod merched a menywod ifanc yn cael eu rhoi yn y sefyllfa hon. Ar ben hynny, nid yw llawer o'r rhai yr effeithir arnynt yn cael gwybodaeth briodol am yr hyn sy'n digwydd i'w cyrff. Cyfaddefodd un o bob saith nad oeddent yn gwybod beth oedd yn digwydd pan ddechreuodd eu mislif, a dywedodd mwy na chwarter nad oeddent yn gwybod beth i'w wneud pan ddechreuodd eu misglwyf. Mae hyn yn frawychus, ac rwy'n falch fod y cynnig hefyd yn trafod addysg.
Rwyf am ganolbwyntio ar beth sy'n digwydd yn fy awdurdod lleol fy hun yn Rhondda Cynon Taf. Fel y gŵyr yr Aelodau, Rhondda Cynon Taf fydd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i roi camau ar waith i drechu tlodi misglwyf. Fel y dywedodd y Cynghorydd Joy Rosser, aelod cabinet dros addysg, mae hwn yn gam arloesol. Rwy'n falch fod hyn hefyd wedi'i gydnabod yn y cynnig.
Hoffwn dalu teyrnged i'r ysbryd trawsbleidiol y datblygwyd y polisi pwysig hwn ynddo yn RhCT. Mae'n dda gweld pob plaid yn gweithio gyda'i gilydd i wella amgylchiadau merched a menywod ifanc. Ond beth y mae gwaith Rhondda Cynon Taf yn ei olygu? Yn gyntaf, rwy'n falch fod y gweithgor a ystyriodd ymateb y cyngor wedi gwneud meddyliau a phrofiadau dysgwyr benywaidd ym mhob rhan o'r sir yn fan cychwyn. Fel y nododd y gweithgor, mae cyfranogiad disgyblion drwy gydol yr adolygiad yn hollbwysig er mwyn codi proffil y ddarpariaeth fisglwyf mewn ysgolion. Mae hefyd yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth a chael gwared ar y dryswch a'r ymdeimlad o gywilydd, gobeithio.
Felly, hoffwn nodi rhai pwyntiau pwysig o'u hymchwil. Dywedodd 52 y cant o ddisgyblion ysgol uwchradd benywaidd eu bod yn ymwybodol fod cynhyrchion misglwyf rhad ac am ddim ar gael iddynt yn eu hysgol. Dywedodd y rhan fwyaf eu bod yn gwybod sut i gael gafael arnynt, ac roeddent yn hapus â'r hyn a oedd ar gael. Ond pan ofynnwyd iddynt os oedd eu misglwyf wedi effeithio ar eu presenoldeb, dywedodd 46 y cant ei fod wedi peri iddynt golli'r ysgol. Er ei fod yn cyd-fynd â data Plan, efallai mai crafu'r wyneb yn unig y mae hyn, gan nad oedd pob un o'r ymatebwyr wedi dechrau eu misglwyf mewn gwirionedd. Dywedodd 62 y cant o'r ymatebwyr fod cael misglwyf yn effeithio ar eu perfformiad yn yr ysgol uwchradd. Ac yn olaf, er bod dros hanner y disgyblion wedi cael gwybodaeth am fisglwyf yn ystod eu haddysg gynradd, dywedodd chwech o bob 10 nad oedd eu hysgol uwchradd yn darparu addysg ddilynol ynglŷn â hyn. Mewn cyferbyniad, fodd bynnag, dywedodd 100 y cant o ysgolion uwchradd a ymatebodd eu bod yn teimlo eu bod yn cynnig dosbarthiadau priodol i'w disgyblion. Nid wyf yn credu bod hwn yn achos o un grŵp yn gywir a'r llall yn anghywir. Rwy'n meddwl ei fod yn tynnu sylw at y gwahaniaeth mewn canfyddiad ac yn dangos efallai fod angen i ysgolion ystyried mabwysiadu dulliau amgen i wneud yn siŵr fod merched a menywod ifanc yn gwybod pa gymorth sydd ar gael.
Hefyd, rwyf am nodi dau bwynt pellach o'r ymchwil. Dywedodd nifer fach o ysgolion uwchradd eu bod eisoes yn dyrannu cyllideb gyfyngedig ar gyfer prynu cynhyrchion misglwyf, ond nad oedd y mwyafrif helaeth yn gwneud hynny. Fel arfer, yn lle hynny, roeddent yn dibynnu ar staff i brynu'r eitemau, a defnydd o arian mân, neu eitemau am ddim a adawyd ar ôl wedi i'r nyrs ysgol ymweld i drafod y glasoed. Mae ysgolion yn hysbysu disgyblion fod y cynhyrchion hyn ar gael mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn amrywio o sgyrsiau cynnil i drafodaethau dosbarth yn y cyfnod pontio a gwersi addysg bersonol a chymdeithasol blwyddyn 7. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad oes dull cyson ar draws yr awdurdod lleol ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr fod hynny'n wir ledled Cymru hefyd.
Yn yr amser sydd gennyf ar ôl, hoffwn edrych ar beth y mae Rhondda Cynon Taf yn ei gynnig fel ateb mewn gwirionedd. Bydd bellach yn orfodol yn fy awdurdod lleol i bob ysgol gyda merched naw oed a hŷn ddarparu amrywiaeth o gynhyrchion misglwyf rhad ac am ddim y gellir cael gafael ynddynt—ac mae hyn yn hollbwysig—yn annibynnol yn y toiledau. Datblygir adnoddau ac arwyddion i godi ymwybyddiaeth ymysg dysgwyr, staff, rhieni a gofalwyr. Caiff camau eu cymryd hefyd i wella ansawdd y ddarpariaeth addysg bersonol a chymdeithasol a gwaith gydag athrawon i ddileu stigma neu embaras. Gwn hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pendant, fel y mae'r Aelodau eraill wedi dweud eisoes, i gynorthwyo cynghorau er mwyn sicrhau bod prosiectau o'r fath yn cael eu hariannu. Felly, rwy'n hapus iawn i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.