Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 2 Mai 2018.
Mae tlodi yn fater ffeministaidd. Pan fo menywod ifanc yn colli ysgol oherwydd na allant fforddio cynhyrchion misglwyf, tlodi yw hynny. Pan fo menywod yn gorfod defnyddio papur toiled, hen ddillad, neu ddim byd o gwbl, yn aml, yn lle padiau a thamponau pan fyddant yn cael eu mislif, tlodi yw hynny. Pan fo menywod yn gorfod dewis rhwng prynu cynhyrchion misglwyf, dillad, tocyn bws neu fwyd, tlodi yw hynny. Ydy, mae tlodi yn fater ffeministaidd ac mae effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched.
Yng Nghymru, menywod yw'r rhan fwyaf o weithwyr rhan-amser a gweithwyr ar gyflogau isel a hwy sy'n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan doriadau creulon i les. Mae'n destun cywilydd cenedlaethol fod yna fenywod yng Nghymru nad ydynt yn gallu fforddio prynu'r cyflenwadau o gynhyrchion misglwyf sydd eu hangen arnynt. Roeddwn yn falch pan gyhoeddwyd y grant £1 filiwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, oherwydd bydd yn cynnig rhyw lefel o arian i leddfu symptomau tlodi misglwyf. Ond nid yw'n ddigon.
O'i ddadelfennu, mae grant o £1 filiwn yn cynnig oddeutu £22,000 dros ddwy flynedd i bob awdurdod lleol yng Nghymru i brynu a dosbarthu cynhyrchion misglwyf. Fodd bynnag, byddai cyngor Rhondda Cynon Taf yn unig angen £70,000 mewn un flwyddyn yn unig i brynu a dosbarthu'r cynhyrchion misglwyf. Os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â thlodi misglwyf, rhaid inni fynd ymhellach nag ateb arwynebol tymor byr—rhaid inni geisio mynd i'r afael â gwraidd y broblem yn uniongyrchol, ac mae hynny'n golygu trechu tlodi.
Rhaid i Lywodraeth Cymru roi mesurau go iawn ar waith i ddileu tlodi yng Nghymru, ac mae hynny'n dechrau gyda datganoli gweinyddu lles. Rhaid iddi hefyd weithredu strategaeth gydlynol, hirdymor wedi'i chyllidebu'n briodol ac a fydd yn cynnwys sicrhau darpariaeth gyson, gynhwysol o eitemau misglwyf ledled Cymru. Mae stigma a thabŵ yn perthyn i dlodi misglwyf. Mae angen inni gael gwared ar y cywilydd sy'n gysylltiedig â'r mislif ac addysgu pawb yn agored ac yn onest am y pwnc. Dylem fod yr un mor gyfforddus yn sôn am ddarparu cynnyrch misglwyf ag yr ydym yn sôn am ddarparu papur toiled.
Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i weithredu'n llawn argymhellion yr adroddiad 'Dyfodol y cwricwlwm addysg rhyw a pherthnasoedd yng Nghymru' gan y panel arbenigol rhyw a pherthnasoedd i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn darparu addysg rhyw a pherthnasoedd sy'n gynhwysol ac o ansawdd uchel.
Rhaid imi nodi hefyd nad menter Lafur yw hon yn wreiddiol. Plaid Cymru a wthiodd y mater ar yr agenda, a phan wthiodd cynghorwyr yn fy ardal am bleidlais ar gronfa tlodi misglwyf, dewisodd Llafur wrthwynebu. Ond mae eu hymagwedd ddygn wedi cadw'r ymgyrch hon yn fyw, a dyna pam rwyf am dalu teyrnged i'r menywod aruthrol sy'n gynghorwyr Plaid Cymru yn Rhondda Cynon Taf, ac sydd, ar ôl ymgyrch hir ac a chaled o dan arweinyddiaeth y cynghorydd ifanc, Elyn Stephens, wedi sicrhau bod cynhyrchion misglwyf yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim i'r holl ddisgyblion ysgolion uwchradd ledled Rhondda Cynon Taf. Mae cynghorau Merthyr Tudful, Bro Morgannwg a Chasnewydd oll wedi cyflwyno cynigion yn dilyn esiampl Rhondda Cynon Taf, gan ddangos bod yna symudiad organig tuag at ddarparu cynhyrchion misglwyf i bawb, gyda menywod ifanc yn flaenllaw ynddo.
Mae gofal mislif yn fater gofal iechyd, ac mae gofal iechyd yn hawl ddynol. Er mwyn cydraddoldeb, rhaid i gynhyrchion misglwyf ac addysg rhyw a pherthnasoedd gynhwysfawr fod ar gael i bawb yng Nghymru. Mae darpariaeth gyffredinol yn olwyn hollbwysig yn y peirianwaith i sicrhau cymdeithas gyfartal. Mae gan Gymru bŵer a photensial i arwain drwy esiampl, nid yn unig ar ddileu tlodi, ond yn y gwaith o greu gwlad sy'n gyfartal.