Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 2 Mai 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ie, wel, mae'n dweud y cwbl, onid yw ef? Am y tro cyntaf ers 15 mlynedd, mae'r Ceidwadwyr yn falch i allu llongyfarch y Llywodraeth Lafur ar ei gweithredoedd. Wel, trwy eu gweithredoedd yr adnabyddir rhywun, onid ife?
Mae wythnos yn amser hir, wrth gwrs, mewn gwleidyddiaeth, ond yn yr achos yma, mae wythnos a dau ddiwrnod ers i'r Ysgrifennydd dros Gyllid ymweld â Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad yma gan honni yn fanna nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gallu cyrraedd cytundeb, wrth gwrs, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar welliannau i gymal 11 yn Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Ond, llai na diwrnod yn ddiweddarach, fe gawsom ni ddatganiad personol gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau bod y Llywodraeth wedi cyrraedd cytundeb. Ac, ers hynny, wrth gwrs, mae goblygiadau'r cytundeb yna i gymunedau gwledig yn enwedig, wrth gwrs, sef ffocws fy nghyfraniad i yn bennaf dros y munudau nesaf yma, wedi dod i'r amlwg.
Ers canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o ddatganiadau bwriad a pholisi sy'n ymwneud â dyfodol amaeth, gan gynnwys sicrhau bod ffermwyr Cymru am dderbyn pob ceiniog y maen nhw'n ei dderbyn nawr yn dilyn Brexit. Dim ond pythefnos yn ôl, fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig fod gan y Llywodraeth gyfle unigryw i ail-lunio ein polisïau amaethyddol yn unol ag ymagwedd unigryw ac integredig Cymru at ein economi, cymdeithas a'n hamgylchedd naturiol. Ond, wrth gwrs, yn dilyn y cytundeb yma, wel, mae yna ddryswch llwyr ynglŷn â hynny nawr, a gallu Llywodraeth Cymru i wireddu yr uchelgais mae hi wedi bod yn ei hamlinellu.
Er enghraifft, fe gadarnhaodd Gweinidog Llywodraeth Prydain dros amaethyddiaeth, George Eustice, ddoe yn y Pwyllgor Materion Cymreig mai Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol fydd yn penderfynu faint o arian fydd ar gael i ffermwyr yn amodol ar adolygiad gwariant cynhwysfawr y Llywodraeth—y comprehensive spending review—gan gynnwys, wrth gwrs, sut y bydd yn cael ei ddosbarthu ar draws y Deyrnas Gyfunol. Nawr, yn syth, mae amaethwyr wedi'i gwneud hi'n glir eu bod nhw'n poeni os ydy hynny'n digwydd y byddwn ni o bosib yn symud i gylch tair blynedd yn lle saith mlynedd o safbwynt ariannu fel oedd gan CAP. Mae cwestiynau wedyn yn codi o ran eu gallu nhw i gynllunio tymor hir i ddiwydiant sydd yn ddibynnol ar fuddsoddiad cyfalaf sylweddol ac i ddiwydiant sydd â’i reolaeth strategol, wrth gwrs, yn seiliedig ar y tymhorau; ni allwch newid cyfeiriad dros nos, nac, yn wir, mewn cylchdro mor fyr â thair blynedd, yn aml iawn. Ac os ydyw’n ddibynnol ar yr adolygiad gwariant cyhoeddus, yna mi fydd yr arian hwnnw’n cystadlu â’r holl flaenoriaethau eraill. Eisoes rŷm ni wedi cael y cwestiwn wedi’i ofyn: pa mor uchel fydd ffermwyr mynydd Cymru yn ystyriaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig pan fydd hi’n dod i’r materion yma? Mae ffermio, wrth gwrs, yn cynrychioli cyfran helaethach economi Cymru nag economïau gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, ac felly mae’r risg yn uwch o gael effaith ddifäol.
Nid oes dim byd yn y cytundeb rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr yn rhoi hyder i fi y bydd llais Cymru yn cael ei gryfhau yn y prosesau trafod yma ynglŷn â dyfodol y diwydiant amaeth. Ac os ydym ni mewn unrhyw amheuaeth o ran beth sydd wedi digwydd fan hyn, yna mae’r llythyr gan y Chancellor of the Duchy of Lancaster—nid oeddwn am drio cyfieithu hynny—wedi ei gwneud hi’n gwbl glir: os nad yw caniatâd yn cael ei roi gan y Llywodraethau neu’r Seneddau datganoledig, yna mi fydd Senedd y Deyrnas Unedig yn eu cymeradwyo nhw beth bynnag. Mae e mewn du a gwyn, felly lle mae yna ddryswch ynglŷn â hynny? Mae’r Llywodraeth yma yn gamblo gyda dyfodol cefn gwlad er mwyn bodloni ei thueddiadau unoliaethol, yn fy marn i.
Cwestiwn leiciwn i ofyn hefyd yw: pa asesiad mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o effaith y cytundeb yma ar Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol? Fel rhywun fuodd yn rhan o graffu'r Ddeddf yna, mae’n egwyddor drefniadol ganolog—dyna oedd y lein: central organising principle—y sector gyhoeddus yng Nghymru, ac mae disgwyl bod polisïau fel amaeth, fel yr amgylchedd, fel caffael cyhoeddus yn cwrdd â gofynion y Ddeddf yna. Mae yna gwestiynau yn fy meddwl i, lle rŷm ni’n mynd yn hynny o beth, ac efallai cawn ni eglurder gan y Prif Weinidog. Ble mae’n ein gadael ni o safbwynt polisi gwrth-GM? Ble mae’n ein gadael ni o ran cig eidion llawn hormonau a allai fod yn dod i’r wlad yma? Cyw iâr wedi’i glorineiddio yn dilyn cytundeb posib gyda Donald Trump, newidiadau i safonau lles anifeiliaid ac yn y blaen, ac yn y blaen.
Yn olaf, gan fod y cloc yn fy nghuro i, nid dim ond Llafur, wrth gwrs, sy’n rhan o’r weinyddiaeth yma sydd wedi dod i gytundeb. Yn anffodus, nid yw’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg yn ei sedd, ond byddwn i’n leicio gwybod beth yw safbwynt Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y mater yma. A ydyn nhw, fel Llafur, yn ochri gyda’r Ceidwadwyr a UKIP, neu a ydyn nhw’n ochri gyda Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban? Rwy’n meddwl bod angen inni wybod yn union lle maen nhw’n sefyll.
Ac i gloi, mae Llafur yn gwybod—rŷch chi yn gwybod—pan fo UKIP a’r Ceidwadwyr yn ciwio i fyny i’ch llongyfarch chi am wneud rhywbeth, rŷch chi’n gwybod eich bod chi naill ai wedi cael eich twyllo, neu rŷch chi wedi gwneud camgymeriad. A’r tristwch fan hyn, wrth gwrs, yw mai pobl Cymru fydd yn talu’r pris.