Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 2 Mai 2018.
Credaf fod angen inni fyfyrio ar ble roedd ein man cychwyn yn y broses hon. Roedd cymal 11, fel y'i drafftiwyd yn wreiddiol, i bob pwrpas yn Fil i ail-ganoli pwerau, a greai lanastr o'r setliad datganoli. Cynnyrch meddylfryd Llywodraeth y DU ydoedd, sy'n dal heb ymgodymu â datganoli, ac roedd yn parhau â'r math o feddwl sydd wedi arwain at fethiant llwyr i anrhydeddu'r holl addewidion a wnaed i gynnwys, ymgysylltu ac ymgynghori â'r Llywodraethau datganoledig.
Yr hyn sydd gennym erbyn hyn, yn ddiamau, yw cymal 11 gwahanol iawn. Mae'n amlwg fod Llywodraeth y DU wedi symud gryn bellter o'i safbwynt gwreiddiol, a chredaf fod hyn yn deillio o nifer o ffactorau: gwrthod y model cymal 11 gwreiddiol yn gadarn, cryfder y safbwynt cyffredin rhyngom a'r Alban ar faes o ddiddordeb cyffredin, a throsoledd y Bil parhad. Effaith hyn oll oedd rhoi pwysigrwydd cyfansoddiadol confensiwn Sewel yn flaenllaw yn y negodiadau fel mater o egwyddor, yn ogystal ag egwyddorion rhannu sofraniaeth sy'n sail i'r setliad datganoli. Hefyd, ni ddylid tanbrisio dylanwad dyfarniad y Goruchaf Lys nodedig yn yr achos erthygl 50—Miller—ar feddwl y Llywodraeth, a phwysigrwydd gwleidyddol y confensiwn yn arbennig. Yn ogystal â hyn, roedd doethineb gwleidyddol ac arweiniad yr Ysgrifennydd Cabinet Mark Drakeford mewn trafodaethau hynod anodd a chymhleth yn ffactor pendant. Mae angen cydnabod y medrusrwydd a ddangosodd yn y trafodaethau hyn.
Fel gydag unrhyw negodi, nid yw'r cytundeb a gawsom yn rhoi popeth yr oeddem ei eisiau. Yr ateb symlaf fyddai dileu cymal 11 yn ei gyfanrwydd. Rwy'n dal o'r farn mai dyna fyddai'r ateb gorau wedi bod, ond fe ddywedaf eto fod cyfaddawdu yn y sefyllfaoedd rhynglywodraethol cymhleth hyn yn anochel. Nid oes gan Lywodraethau'r moethusrwydd sydd gan wrthblaid barhaol ac amhenodol. Y cwestiwn ger ein bron yw a yw'r cyfaddawdau a'r consesiynau a wnaed gan Lywodraeth y DU yn ddigonol. A ydym wedi cyflawni digon o newid i ddiogelu buddiannau Cymru? Yn y pen draw, mater o farn wleidyddol yw hynny.
Yr hyn a gyflawnwyd yw trawsffurfio cymal 11. Mae'n gwrthdroi safbwynt gwreiddiol Llywodraeth y DU. Mae meysydd datganoledig yn parhau wedi'u datganoli. Mae rhai pwerau a gydnabyddir gennym oll fel rhai hanfodol i ddatblygu fframweithiau diddordeb cyffredin i'w rhewi a'u gwneud yn amodol ar broses gydsynio Sewel well, rhyw fath o Sewel uwchgadarnhaol. Mae'r diwygiadau'n caniatáu rhai cyfyngiadau ar y pwerau i Gymru, ond ar yr un pryd, yn gosod cyfyngiadau ar Lywodraeth y DU a Gweinidogion Lloegr. Mae hyn nid yn unig yn ddull arloesol yn gyfansoddiadol o oresgyn y ddadl ynghylch tegwch a amlinellwyd gan y Prif Weinidog, mae hefyd yn gam cyfansoddiadol cyntaf, yn gynsail nodedig, o natur ffederal—cydnabyddiaeth o swyddogaeth weinidogol Seisnig yn ein setliad cyfansoddiadol sy'n gosod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa gydradd at ddibenion datblygu'r fframweithiau.
Mae hefyd yn gam cyfansoddiadol cyntaf yn yr ystyr, pe bai Llywodraeth y DU yn ceisio diystyru cydsyniad, ni chaff wneud hynny heb ganiatâd eglur dau Dŷ'r Senedd a hawl clir Llywodraeth Cymru i gyflwyno datganiad yn amlinellu ei gwrthwynebiad—fel y dywedais, math o Sewel uwchgadarnhaol, sy'n codi statws cyfansoddiadol Sewel, gan ei gynnwys mewn proses seneddol ffurfiol a thraddodadwy.
Nawr, o farnu llwyddiant safbwynt negodi Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, mae angen inni ystyried canlyniadau peidio â rhoi cydsyniad. Byddai hynny, fel y gŵyr pawb ohonom, yn arwain at argyfwng cyfansoddiadol difrifol a fyddai'n niweidiol i Gymru, a hefyd yn niweidiol i'r DU. Felly, y cwestiwn yw: a ydym wedi cyflawni digon i roi cydsyniad? Rwyf o'r farn ein bod.
Nid dyma ddiwedd y mater fodd bynnag. Wrth symud ymlaen, mae'r cymal 11 newydd hwn yn ein galluogi i fwrw ymlaen â datblygu'r fframweithiau, sy'n hollbwysig i fusnesau Cymru ac i economi Cymru. Mae hefyd yn gosod y paramedrau ar gyfer y Bil Masnach a deddfwriaeth ganlyniadol arall. Mae hefyd yn ein galluogi yn awr i ganolbwyntio ar fater undeb tollau a buddiannau Cymru mewn masnach sy'n rhydd o dariffau a rheoliadau, ac mae'n ein galluogi i fwrw ymlaen â datblygu gweithdrefnau a diwygio rhyngseneddol, sy'n hanfodol ar gyfer Prydain ôl-Brexit a datblygu cysylltiadau cyfansoddiadol mwy ffederal. Ychydig sydd gennym i'w ennill drwy ryfel neu anghytundeb cyfansoddiadol, a llawer i'w golli, ac rwy'n credu, drwy gefnogi'r cytundeb, ein bod yn rhoi buddiannau Cymru a phobl Cymru yn gyntaf.
Nawr, mae'n rhaid imi ymateb i'r hyn y credaf eu bod yn sylwadau eithaf sarhaus a wnaed gan arweinydd Plaid Cymru pan gyfeiriodd at ildio, baneri gwyn ac ati. Fe ddywedaf hyn: rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd Plaid Cymru yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf yn hytrach na rhai'r Alban. Mae'n resynus iawn nad yw Plaid Cymru yn gallu sefyll dros Gymru, a bod yn well ganddi ymostwng i Blaid Genedlaethol yr Alban wrth iddi fynd ar drywydd eu hideoleg ymwahanol gul. Ein dyletswydd ni yw hyrwyddo buddiannau Cymru, nid yr Alban. Bydd Llafur Cymru bob amser yn rhoi Cymru yn gyntaf, gan mai ni yw gwir blaid Cymru a phobl Cymru.