Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 2 Mai 2018.
Ddoe, estynnodd Donald Trump ei derfyn amser ar gyfer penderfynu a fydd yn parhau i eithrio gwledydd yr UE rhag ei dariffau 25 y cant ar ddur ac alwminiwm sy'n mynd i mewn i'r Unol Daleithiau ai peidio. Ni ddylem danbrisio'r ansicrwydd i fusnes a'r farchnad y gall tariffau a rhwystrau masnach eu creu i ddiwydiannau o bob math, ond yn enwedig i ddiwydiannau sy'n dibynnu ar allforion megis dur. Mae'n allweddol i ganolfan ddiwydiannol fwyaf Cymru ac un o gyflogwyr preifat mwyaf Cymru yn Tata ym Mhort Talbot ac mewn mannau eraill yng Nghymru.
Nid yw'n gyfrinach ychwaith fod Llywodraeth y DU yn enbyd o awyddus i brofi ei bod yn ymdopi â chanlyniad Brexit, a'r dirywiad economaidd hirdymor y mae'n debygol o arwain ato, drwy hyrwyddo'r syniad o gytundebau masnach ar draws y byd. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i'r rhain fod yn gytundebau wedi'u teilwra'n bwrpasol, ac yn groes i'r byd ffantasi economaidd y mae Torïaid ac UKIP i'w gweld yn byw ynddo, lle mae Prydain yn dal i fod yn ymerodraeth fasnachol fyd-eang, mae'n amlwg nad yw gwledydd eraill yn baglu dros ei gilydd i ddatblygu cytundebau masnach rydd gyda'r DU. Daeth Theresa May yn ôl yn waglaw o'r India yn ôl yr hyn a welais yn ddiweddar.
Felly, yr hyn sy'n destun pryder mawr i mi ac eraill, yn enwedig y rheini sy'n gweithio mewn diwydiannau megis dur, yw beth yn union y mae Llywodraeth y DU yn mynd i ildio er mwyn denu cytundebau masnach. Mae pawb ohonom yn gyfarwydd â'r posibilrwydd o fwyd rhad wedi'i lenwi â chemegau o'r Unol Daleithiau yn tagu ein marchnadoedd, ond beth am y modd y mae gwledydd eraill yn mynnu ein bod yn aberthu rhannau eraill o'n sylfaen economaidd a'n cryfder er mwyn hwyluso cytundebau masnach? O ystyried bod yr Arlywydd Trump—i barhau i ddefnyddio'r enghraifft—wedi dangos tuedd i wneud penderfyniadau polisi sy'n ymwneud yn llwyr â bodloni ei gefnogwyr a fawr ddim arall, nid yw'n realistig tybio y gellid rhoi dur o'r DU a diwydiannau eraill ar y bwrdd fel rhan o gytundebau masnach yn y dyfodol.
Felly, yn fy marn i, mae ildio pwerau cymorth gwladwriaethol a phwerau caffael fel rhan o'r cytundeb Brexit ar bwerau yn eithriadol o fyrbwyll. Un o'r ychydig iawn o bethau cadarnhaol, rhaid imi ddweud, sy'n deillio o adael yr UE yw ein bod yn fwy rhydd o ran rheolau cymorth gwladwriaethol a chaffael cyhoeddus, a dylai Llywodraeth Cymru fod wedi bachu'r rhain â dwy law, ond yn lle hynny, maent wedi eu hildio. Efallai fod yna gymal machlud, ond faint o bŵer a dylanwad a gaiff Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd mewn trefniadau cydsynio pan fo penderfyniad y Torïaid yn San Steffan yn un ar gytundeb masnach y DU? A ydynt o ddifrif yn mynd i flaenoriaethu elfennau o economi Cymru sydd mor hanfodol i gynnal yr economi fregus sydd gennym yma yng Nghymru?
Na foed inni anghofio, pan wynebodd Tata Steel fygythiad difrifol o gau neu golli swyddi ar raddfa fawr yn 2015 a 2016, Llywodraeth Cymru a ymrwymodd i gymorth gwladwriaethol fel rhan o becyn ehangach o fesurau i achub y diwydiant yma yng Nghymru. A gaiff y pŵer ei newid? Cafwyd cyhoeddiadau cymorth gwladwriaethol ar gyfer dur fel rhan o'r gyllideb ddiweddaraf, fel y gwyddom. Yn dechnegol, ni fydd y pŵer hwnnw gan Lywodraeth Cymru mwyach o ganlyniad i gytundeb Bil ymadael yr UE—a hyn ar adeg pan fo llawer o'r Aelodau Llafur yn dal i wisgo bathodynnau 'Achubwch ein Dur'.
I lawer o bobl a fu'n gwylio'r hyn a ddigwyddodd dros yr wythnosau diwethaf, bydd yn ymddangos yn glir iawn fod Llafur wedi penderfynu ei bod yn well i San Steffan arfer pwerau ymyrraeth economaidd allweddol, yn hytrach na'r fan hon ganddynt hwy eu hunain a'u Llywodraeth eu hunain.