8. Dadl Plaid Cymru: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a datganoli

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 2 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 4:30, 2 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Yn fyr, mae'r cytundeb yn gwbl gyson â'r model cadw pwerau a ymgorfforir yn Neddf yr Alban a Deddf Cymru 2017, ac mewn rhai ffyrdd mae'n cryfhau'r model hwnnw, fel y byddaf yn egluro. Yr ail bwynt i'w wneud yw y caiff fframweithiau eu nodi a'u cytuno drwy broses rynglywodraethol gydweithredol, yn seiliedig ar Sewel. Yn wreiddiol, bydd yr Aelodau'n cofio, barn Llywodraeth y DU oedd y byddai fframweithiau'n cael eu llunio a'u pennu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth y DU. Unwaith eto, gwelwn symud enfawr oddi wrth eu safbwynt gwreiddiol. Bydd y broses hon bellach yn datblygu'r rheoliadau drafft sy'n nodi pa bwerau UE a gaiff eu rhewi. A gadewch i mi fod yn hollol glir: nid ydym wedi cytuno i unrhyw gyfyngiadau ar gymhwysedd datganoledig. Felly, byddai'n anghywir honni y bydd y pwerau UE presennol dros y 26 polisi yn yr atodiad i'r cytundeb bellach yn San Steffan. Y realiti yw nad yw'r Bil a'r cytundeb eu hunain yn ildio dim. Y rheoliadau drafft, sydd eto i'w datblygu, a fydd yn cynnig cadw'r cyfyngiadau UE presennol mewn perthynas â rhai o'r elfennau o fewn y 26 maes—rhai elfennau, nid pob un ohonynt yn eu cyfanrwydd.

Nawr, yn hollbwysig, bydd y rheoliadau drafft hynny'n dod i'r Cynulliad i ni eu hystyried, ac i benderfynu a ydym yn rhoi ein caniatâd i'r cyfyngiadau hyn cyn eu gosod gerbron Senedd y DU. Mae'r cytundeb hwnnw wedyn yn cymhwyso'r un egwyddor ag sy'n gymwys ar hyn o bryd i ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n effeithio ar faterion datganoledig. Mewn gwirionedd, yr hyn y mae gwelliannau'r Arglwydd Callanan yn ei wneud yw ymestyn confensiwn Sewel i gynnwys is-ddeddfwriaeth mewn modd na ddigwyddodd cyn hyn. Felly, mewn gwirionedd, mae'n ymestyn datganoli. Mae'n golygu na fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn bwrw ymlaen i gyflwyno rheoliadau drafft gerbron y Senedd os yw'r Cynulliad wedi gwrthod rhoi cydsyniad. Nawr, bydd rhai yn dweud, 'nid fel arfer', ond dyna'n syml y mae'r trefniadau datganoli presennol yn ei ddweud. Dyna a ddywedai'r Deddfau a ddarparodd ddatganoli i'r Cymry yn dilyn y bleidlais—mae wedi'i fynegi yn yr un ffordd yn union yn setliad datganoli yr Alban. Felly, y cyfan y mae hynny'n ei wneud yw defnyddio'r un dull a'r un iaith sydd eisoes wedi'i sefydlu'n rhan o'r broses ddatganoli. Mae pa un a ddylai hynny barhau yn y dyfodol yn ddadl y credaf fod angen inni ei chael, ond dyna lle rydym ni, yn gyfansoddiadol. Felly, mae'n symud Sewel gam ymlaen. Mae Sewel, cofiwch, yn rhywbeth a oedd yn perthyn i ddeddfwriaeth sylfaenol yn wreiddiol. I bob pwrpas, cafodd ei ymestyn bellach i gynnwys is-ddeddfwriaeth yn ogystal.

Nawr, pe bai Llywodraeth y DU yn dymuno, mewn amgylchiadau eithafol, ei bod am fwrw ymlaen â'r rheoliadau heb gydsyniad—rhywbeth y gall ei wneud yn gyfreithiol, mae pawb ohonom yn gwybod hynny, oherwydd sofraniaeth y Senedd, pa un a ydym yn cytuno â hynny ai peidio; yn digwydd bod, nid wyf yn cytuno â hynny, ond mater at rywdro eto yw hynny—wel, rhaid i Lywodraeth y DU wneud mwy na chyflwyno'i safbwynt ei hun yn unig, a rhoddir barn y deddfwrfeydd datganoledig gerbron Senedd y DU. Mae Senedd y DU yn ystyried y ffaith y byddai'r ddeddfwrfa hon wedi gwrthod cydsyniad. Felly, mae hynny'n rhoi Senedd y DU mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddi wrando ar fwy na barn Llywodraeth y DU.

Y trydydd pwynt: wrth gwrs, yr hyn a fydd yn digwydd yn awr yw y bydd y cymalau machlud yno ar wyneb y Bil o ran y pŵer i greu rheoliadau ddwy flynedd o ddiwrnod Brexit, a bydd unrhyw reoliadau'n cael eu gwneud am uchafswm o bum mlynedd. O'r herwydd, mae unrhyw gyfyngiadau ar gymhwysedd felly'n rhai dros dro. Nawr, roedd Aelodau'n gofyn y cwestiwn: a ellir ymestyn y cymal machlud? Wel, yn yr ystyr y gall Senedd y DU wneud yr hyn a ddymuna, yn ddamcaniaethol mae hynny'n bosibl. Ond ceir cytundeb bellach, a rhywbeth sy'n llawer mwy pendant a real, na fydd hynny'n digwydd. Mewn gwirionedd, mae pwysau arall hefyd ar Lywodraeth y DU sy'n rhoi'r cysur sydd ei angen arnom na fyddwn yn gweld y cymal machlud yn cael ei ymestyn, sef hyn: mae'r cytundeb yn gosod cyfyngiadau pwysig pellach ar Lywodraeth y DU yn y ffordd hon, oherwydd mae'n rhoi sicrwydd diamwys na fydd Gweinidogion y DU yn dod ag unrhyw ddeddfwriaeth gerbron y Senedd i Loegr allu gwneud newidiadau i gyfraith yr UE a gedwir yn ôl mewn meysydd fframwaith. Mae'n golygu bod pawb ohonom yn cael yr un chwarae teg, ac un o'r materion y dadleuais yn gryf â David Lidington yn ei gylch yn y negodiadau a gefais gydag ef oedd nad yw'n deg y dylai Lloegr gael rhyddid a wrthodir i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn cael gwared ar y rhyddid. Felly, mewn gwirionedd, ceir pob cymhelliad bellach i wneud y cymalau machlud yn fyrrach, oherwydd nid yw o fudd i Lywodraeth y DU sy'n gweithredu mewn perthynas â Lloegr i gael ei chyfyngu yn yr un modd ag y byddem ni, ond mewn ffordd na fyddent wedi'u cyfyngu heb y cytundeb hwn. Gallent fod wedi gwneud beth bynnag y dymunent a byddai cyfyngiadau ar y Llywodraethau eraill yn y DU, ac mae hwnnw'n newid pwysig. Mae'n sefydlu chwarae teg i bawb er mwyn cadw fframweithiau presennol yr UE, ie—mae arnom angen hynny—ond hyd nes y bydd fframweithiau newydd wedi cael eu negodi a'u cytuno. Felly, gwelwn fod yna gymhelliad cryf i Lywodraeth y DU gytuno ar fframweithiau ymhell cyn diwedd y cyfnod o bum mlynedd ar ei hiraf, oherwydd fel arall ni allant wneud newidiadau yn Lloegr, er enghraifft i ddiwygio polisi amaethyddol yn Lloegr.