Hygyrchedd Trenau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 8 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:31, 8 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, un o'r rhwystredigaethau i deithwyr anabl yw mai dim ond un lle sydd ar gael ar gyfer cadair olwyn ar lawer o drenau, sy'n rhy aml wedi ei lenwi gan gadeiriau gwthio neu fagiau. Nawr, dywedwyd wrthyf bod, yn Awstralia, cerbyd cyfan yn cael ei neilltuo i'r teithwyr hynny ag anawsterau symud, lle ceir lleoedd ychwanegol ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. A allwch chi amlinellu ychydig mwy o fanylion ar sut y bydd y fasnachfraint rheilffyrdd nesaf yn diwallu anghenion y rhai sydd ag anawsterau symud?