1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Mai 2018.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hygyrchedd trenau ar gyfer personau â lefel symudedd is ? OAQ52130
Gwnaf. Erbyn 31 Rhagfyr y flwyddyn nesaf, mae'n rhaid i bob trên gynnwys darpariaethau ar gyfer pobl ag anawsterau symud, yn unol â safonau'r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a bydd y dogfennau caffael ar gyfer contract gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau yn gorchymyn cydymffurfiad â safonau pobl ag anawsterau symud.
Diolch am hynna. Rydym ni'n gwybod ein bod ni'n mynd i gael gweithredwr trenau newydd yng Nghymru o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Y broblem yw ei bod yn bosib na fydd y gweithredwr newydd yn gallu cael cerbydau newydd am bedair blynedd efallai, felly gallem fod â thacteg, er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno a nodwyd gennych, bod y gweithredwr trenau newydd yn gorfod, neu'n credu bod yn rhaid iddo, adael toiledau wedi eu cloi ar y trenau, sy'n golygu na all neb eu defnyddio. A ydych chi'n gweld hynny fel problem bosibl i'r sawl sy'n ennill y fasnachfraint newydd?
Nac ydw, ni fydd caniatâd i doiledau gael eu cloi o dan unrhyw amgylchiadau.
Prif Weinidog, un o'r rhwystredigaethau i deithwyr anabl yw mai dim ond un lle sydd ar gael ar gyfer cadair olwyn ar lawer o drenau, sy'n rhy aml wedi ei lenwi gan gadeiriau gwthio neu fagiau. Nawr, dywedwyd wrthyf bod, yn Awstralia, cerbyd cyfan yn cael ei neilltuo i'r teithwyr hynny ag anawsterau symud, lle ceir lleoedd ychwanegol ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. A allwch chi amlinellu ychydig mwy o fanylion ar sut y bydd y fasnachfraint rheilffyrdd nesaf yn diwallu anghenion y rhai sydd ag anawsterau symud?
Wel, ni fyddem ni eisiau sefyllfa lle mae'r bobl hynny sydd mewn cadeiriau olwyn yn cael eu gwahanu i bob pwrpas—ac nid yw'r Aelod yn awgrymu hynny, er tegwch. Mae'n bwysig dros ben bod pobl yn gallu teithio ar bob rhan o'r trên. I ddychwelyd at y pwynt a wneuthum yn gynharach, bydd angen cydymffurfio â'r fanyleb dechnegol, fel y dywedais, erbyn 31 Rhagfyr y flwyddyn nesaf. Gallaf ddweud bod cytundebau eisoes ar waith i addasu cyfran sylweddol o'r cerbydau presennol, ac mae cynlluniau ar waith i ymdrin â'r trenau pacer. Mae rhywfaint o'r fflyd bresennol yn bodloni'r gofynion cydymffurfio eisoes, ond, erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, bydd yn rhaid i bob un ohonyn nhw wneud hynny.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog egluro: a yw Llywodraeth Cymru wedi gofyn yn ei manyleb gan yr ymgeiswyr y bydd cyfleusterau toiled sy'n cydymffurfio â'r rheolau newydd ar yr holl drenau yn y metro?
Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni'n ystyried nifer o ddewisiadau ar hyn o bryd. Os nad oes gan y trenau— [Torri ar draws.] Wel, os nad oes toiledau ar y trenau, yna byddem yn disgwyl i'r gweithredwr ddarparu gwasanaethau llawer iawn gwell mewn gorsafoedd i sicrhau bod pobl yn teimlo'n gyfforddus pan eu bod yn teithio. Wrth gwrs, ceir enghreifftiau o wasanaethau metro mewn mannau eraill, fel Manceinion Fwyaf, lle nad oes toiledau ar y trenau, ac yn aml nid oes unrhyw gyfleusterau i deithwyr sy'n dymuno defnyddio toiled. Nid dyna'r ydym ni ei eisiau; rydym ni eisiau gwneud yn siŵr y gall pobl gael mynediad at gyfleusterau toiled mewn modd mor hawdd â phosibl.
Prif Weinidog, mae Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates wedi bod yn rhagweithiol o ran nodi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerbydau sy'n addas ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd yn yr unfed ganrif ar hugain. Ym mis Gorffennaf y llynedd, dywedodd Ken Skates, a dyfynnaf,
Rwyf wedi bod yn agored iawn ynghylch yr anhawster sydd ynghlwm ag ychwanegu cerbydau o safon uchel at y stoc sydd ar gael yng Nghymru, ac mae wedi bod yn gwbl eglur bod yn rhaid i'r teithiwr fod yn ganolog i'r fasnachfraint nesaf—sef masnachfraint gyntaf Llywodraeth Cymru. Prif Weinidog, ceir tystiolaeth o'r ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Llafur Cymru drwy'r ffaith fod Cymru wedi cael ei dewis gan Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles fel y lleoliad newydd ar gyfer ei ganolfan ragoriaeth newydd i weithgynhyrchu cerbydau yn y DU. Pa gyfleoedd, ym marn y Prif Weinidog, a fydd buddsoddiad o £30 miliwn, a chreu 300 o swyddi o ansawdd uchel mewn cyfleuster sy'n cydosod, yn profi, ac yn comisiynu cerbydau rheilffordd newydd, yn eu cynnig i'r diwydiant rheilffyrdd i sicrhau hygyrchedd trenau i bobl ag anawsterau symud yng Nghymru?
Yn sicr. Dyma un o'r prosiectau trafnidiaeth gyhoeddus mwyaf y tu allan i Lundain. Bydd yn defnyddio, wrth gwrs, rhai o'r rheilffyrdd presennol sydd yno eisoes. Maen nhw i gyd yn rheilffyrdd trwm ar hyn o bryd, a bydd angen i ni weld pa rai fydd yn parhau i fod yn rheilffyrdd trwm, pa rai fydd yn cael eu troi'n rheilffyrdd ysgafn, pa lwybrau newydd fyddai'n cael eu cyflwyno wedyn gan ddefnyddio rheilffyrdd ysgafn, ochr yn ochr â rhai o'r llwybrau presennol sydd â chledrau rheilffordd arnyn nhw ond nad ydyn nhw wedi cael eu defnyddio ers blynyddoedd maith. Mae'r rhain i gyd yn faterion sy'n cael eu hystyried yn rhan o'r broses dendro ar gyfer y fasnachfraint.