Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 8 Mai 2018.
Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni'n ystyried nifer o ddewisiadau ar hyn o bryd. Os nad oes gan y trenau— [Torri ar draws.] Wel, os nad oes toiledau ar y trenau, yna byddem yn disgwyl i'r gweithredwr ddarparu gwasanaethau llawer iawn gwell mewn gorsafoedd i sicrhau bod pobl yn teimlo'n gyfforddus pan eu bod yn teithio. Wrth gwrs, ceir enghreifftiau o wasanaethau metro mewn mannau eraill, fel Manceinion Fwyaf, lle nad oes toiledau ar y trenau, ac yn aml nid oes unrhyw gyfleusterau i deithwyr sy'n dymuno defnyddio toiled. Nid dyna'r ydym ni ei eisiau; rydym ni eisiau gwneud yn siŵr y gall pobl gael mynediad at gyfleusterau toiled mewn modd mor hawdd â phosibl.