Cymorth i Brynu — Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 8 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 8 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Ers ei lansio yn 2014, mae Cymorth i Brynu—Cymru wedi helpu bron i 6,900 o aelwydydd i brynu eu cartref newydd, gan gynnwys oddeutu 75 y cant o brynwyr tro cyntaf. Hefyd, wrth gwrs, mae'r cynllun yn denu cyllid datblygu i Gymru ac yn darparu swyddi a chyfleoedd i gadwyn gyflenwi Cymru.