Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 8 Mai 2018.
Mae'r strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi twf economaidd yng nghwm Cynon a ledled Cymru. Dim ond rhai enghreifftiau, wrth gwrs: mae ein cronfa benthyciadau canol tref Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn helpu i gefnogi gwaith adfywio canol trefi ledled Cymru. Mae Aberdâr, yn arbennig, yn gweld budd hynny. Os edrychwn ni, er enghraifft, ar gwm Cynon, mae cwm Cynon wedi denu pedwar buddsoddiad gan gwmnïau â pherchnogion tramor a dau fuddsoddiad o rannau eraill o'r DU dros y pum mlynedd diwethaf. Ac, wrth gwrs, ceir enghreifftiau o fusnesau cynhenid yn y cwm sy'n gwneud yn dda, fel Ashwood Designs.