1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Mai 2018.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi twf economaidd yng Nghwm Cynon? OAQ52157
Mae'r strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi twf economaidd yng nghwm Cynon a ledled Cymru. Dim ond rhai enghreifftiau, wrth gwrs: mae ein cronfa benthyciadau canol tref Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn helpu i gefnogi gwaith adfywio canol trefi ledled Cymru. Mae Aberdâr, yn arbennig, yn gweld budd hynny. Os edrychwn ni, er enghraifft, ar gwm Cynon, mae cwm Cynon wedi denu pedwar buddsoddiad gan gwmnïau â pherchnogion tramor a dau fuddsoddiad o rannau eraill o'r DU dros y pum mlynedd diwethaf. Ac, wrth gwrs, ceir enghreifftiau o fusnesau cynhenid yn y cwm sy'n gwneud yn dda, fel Ashwood Designs.
Diolch, Prif Weinidog, ac rwy'n cytuno â phopeth a ddywedasoch yn y fan yna. Ymwelais yn ddiweddar â Pontus Research, sy'n fusnes ymchwil a datblygu dyframaethu arobryn yn fy etholaeth i, â chanddo restr o gleientiaid byd-eang. Mae'r cwmni wedi gwneud yn anhygoel o dda, ond maen nhw wedi cyrraedd capasiti erbyn hyn ac maen nhw angen tyfu. Maen nhw wedi gwneud cais am gyllid o gronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop, ond fe'u hysbyswyd y gallai eu cais gymryd o leiaf 120 diwrnod—120 o ddiwrnodau gwaith yw hynny—dim ond i'w brosesu. Mae hyn yn eu hatal rhag datblygu, rhag sicrhau arian cyfatebol o bosibl, rhag cyflogi staff newydd a thrwy hynny cyfrannu at dwf economaidd hyd yn oed ymhellach yn fy etholaeth i. Prif Weinidog, a wnewch chi edrych ar sut y mae cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop yn gweithio yng Nghymru i weld a ellir gwneud gwelliannau i amserlenni fel nad yw busnesau eraill fel Pontus yn dioddef?
Wel, yn gyntaf oll, dylai'r broses werthuso gymryd hyd at 120 o ddiwrnodau gwaith, nid o leiaf 120 o ddiwrnodau gwaith. Yr hyn y gallaf ei ddweud, fodd bynnag, o ran Pontus yw bod y cais wrthi'n cael ei werthuso ar hyn o bryd. Mae'r cwmni wedi derbyn llythyr yn cadarnhau y gall ddechrau gwaith, ar eu risg ei hun, o'r adeg y cyflwynir y cais, ac roedd hynny ym mis Ionawr 2018, fel y gall y gwaith hwnnw ddechrau. Gallaf hefyd ddweud bod y cwmni wedi gallu elwa hefyd ar gyllid a roddwyd ar gael gan Lywodraeth Cymru drwy'r cynllun cynghorwyr datblygu busnes pysgodfeydd er mwyn helpu i dalu i ymgynghorydd ddatblygu'r syniad busnes. Os yw eich etholwr wedi cael ei hysbysu ei fod yn 120 diwrnod o leiaf, gadewch i mi roi'r sicrwydd mai 'hyd at' yw'r achos, gyda'r nod, wrth gwrs, y bydd y broses werthuso yn cael ei gorffen ymhell cyn hynny.
David Melding.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydych chi'n amlwg yn fy ffafrio i y prynhawn yma, a hir y parhaed hynny. [Chwerthin.] Prif Weinidog, Cwm Cynon yw'r drydedd etholaeth leiaf gweithgar yn economaidd yng Nghymru, a gwyddom am y cysylltiad rhwng gweithgarwch economaidd a ffyniant. Y prif reswm y mae pobl yn parhau i fod yn economaidd anweithgar, pan y gallent, mewn gwirionedd, am resymau iechyd, fod yn ddigon ffit i weithio, yw nad ydynt yn meddu ar y sgiliau sylfaenol i ymuno â'r farchnad swyddi, wrth iddi newid yn gyflym. Felly, mae buddsoddi mewn sgiliau sylfaenol mor bwysig â bwrw ymlaen tuag at yr economi seiliedig ar wybodaeth fawr, yr ydym, wrth gwrs, hefyd eisiau ei gweld yng Nghymru. Y rhaglenni hyn yw'r hyn yr ydym ni wir ei angen mewn ardaloedd fel Cwm Cynon.
Rwy'n cytuno. Y rheswm pam, wrth gwrs, mae cynhyrchiant ar ei isaf erioed, nid yn unig yng Nghymru ond yng ngweddill y DU, yw y bu diffyg buddsoddiad dros flynyddoedd lawer mewn datblygu sgiliau. Rydym ni'n gwybod mai'r mwyaf medrus yw pobl, y mwyaf cynhyrchiol ydyn nhw a'r mwyaf y gallan nhw ei ennill. Rwyf i wedi dweud hyn o'r blaen yn y Siambr: pam, os rhoddwn beiriant penodol i weithiwr o'r Almaen, yr ydym ni'n cael llawer mwy ohono na gweithiwr yn y DU? Pam? Hyfforddiant. Dyna'r rheswm am hyn, a dyna'r wers y mae'n rhaid i ni ei dysgu. Sut ydym ni'n gwneud hynny? Gweithio gyda chyrff addysg uwch, sy'n gweithio'n galed yn eu cymunedau. Colegau addysg bellach—mae gennym ni golegau newydd sydd wedi eu hadeiladu ledled Cymru, gan gynnig cyfleusterau gwych i bobl leol. Mae gan tasglu'r Cymoedd, yn gwbl greiddiol, y dymuniad i sicrhau y gall pobl gael swyddi gwell yn nes at eu cartrefi, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw fynediad at y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Ond mae'n hynod bwysig hefyd gwneud yn siŵr nad yw swyddi yn gadael cymunedau yn y Cymoedd, a dyna pam yr oeddwn i mor siomedig o weld bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi penderfynu canoli llawer o swyddi sydd wedi dod o gymoedd eraill yn Nhrefforest. Nid ydynt yn swyddi newydd; swyddi ydyn nhw sydd ddim ond wedi eu symud o gwmpas. Yn anffodus, i lawer o bobl, bydd hynny'n golygu y byddan nhw'n canfod bellach bod yn rhaid iddyn nhw deithio ymhellach i gadw'r swyddi sydd ganddyn nhw. Mae hwnnw'n gyfeiriad anghywir.