Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 8 Mai 2018.
Nid yw'r rhaglen archwilio clinigol ac adolygu canlyniadau ar gyfer y GIG yn cynnwys darpariaeth—mae hynny'n wir—ar gyfer archwiliad clinigol cenedlaethol o wasanaethau canser yr ofari. Rydym ni, fodd bynnag, yn annog elusennau canser yr ofari yng Nghymru i gysylltu â Rhwydwaith Canser Cymru i ystyried dulliau amgen ar gyfer adolygu gwasanaethau.