Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 8 Mai 2018.
Prif Weinidog, mae'n amlwg bod yna broblem enfawr ynglŷn â doctoriaid tu allan i oriau yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, ac un o'r sgil effeithiau yw bod hyn yn rhoi pwysau difrifol ar wasanaethau A&E, er enghraifft. Mae opsiynau ymgynghoriad presennol y bwrdd iechyd yn golygu y bydd ysbyty Llwynhelyg yn cael ei israddio i ysbyty gymunedol heb wasanaethau A&E, sydd yn hollol annerbyniol. A ydych chi'n cytuno â fi, felly, ei bod hi'n bwysicach fyth bod gwasanaethau A&E ar gael i bobl yn sir Benfro o ystyried bod yna broblem enfawr gyda doctoriaid tu allan i oriau, ac y dylai bwrdd iechyd Hywel Dda o leiaf gydnabod hyn yn ei ymgynghoriad ar ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru?