1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Mai 2018.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd meddygon y tu allan i oriau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OAQ52153
Rwy’n disgwyl i Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda ddarparu ystod o wasanaethau diogel ac effeithiol y tu allan i oriau er mwyn ymateb i anghenion gofal iechyd brys eu poblogaeth pan fydd meddygfeydd ar gau.
Efallai bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddyn nhw ei wneud e, ond, wrth gwrs, ar nifer o achlysuron eleni, mae cleifion yn Hywel Dda wedi cael eu gadael heb ofal meddygon tu allan i oriau ar benwythnosau, oherwydd beth mae'r bwrdd iechyd ei hunain yn disgrifio fel prinder meddygon teulu dybryd. Nawr, mae'n effeithio ar y tair sir o fewn eu hardal nhw ac mae’n benodol yn effeithio ar sir Gaerfyrddin, oherwydd problemau arbennig yn ysbytai Glangwili a Thywysog Philip. Mae’r bwrdd iechyd ei hunain wedi ymddiheuro sawl gwaith i gleifion. A ydy Llywodraeth Cymru’n mynd i ymddiheuro? Oherwydd roeddech chi wedi penderfynu peidio â chynnwys sir Gaerfyrddin, er enghraifft, yn y cynllun 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' i ddenu meddygon teulu i sir Gaerfyrddin. Onid yw peth o’r cyfrifoldeb yn syrthio arnoch chi?
Wel, rŷm ni'n moyn sicrhau, wrth gwrs, bod pobl yn dod i Gymru i weithio. Rŷm ni'n gweld y niferoedd yn codi o achos hynny. Rŷm ni'n gweld, er enghraifft, y niferoedd yn codi yng Ngheredigion a sir Benfro. Hefyd, yn sir Benfro, er enghraifft, yn 2016, roedd y ganran o ddoctoriaid yn mynd i mewn i lefydd hyfforddi ar y pryd yn sero y cant; mae wedi mynd lan i 100 y cant o fewn blwyddyn, 2017. Nawr, a ydy e'n wir bod yna bwysau? Ydy. A ydy e'n wir i ddweud nad yw rhai gwasanaethau wedi gallu cael eu cynnal? Ydy, mae hynny'n iawn. Beth, felly, sy'n digwydd nesaf? Wel, mae Hywel Dda yn cyflogi advanced paramedic practitioners, yn Saesneg—pobl sy'n mynd i allu gweithredu a gweithio yn yr ardaloedd lleol. Mae yna hysbysebion yn mynd mas gan y bwrdd iechyd sydd yn edrych i dynnu pobl i mewn i Hywel Dda. Mae yna drafodaethau yn cymryd lle ar hyn o bryd ynglŷn â'r potensial i ddatblygu gweithio rhanbarthol, yn enwedig yn y cyfnod dros nos, ac mae'r trafodaethau hynny'n cynnwys ABMU, Hywel Dda a hefyd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Hefyd, wrth gwrs, rŷm ni'n edrych ar ffyrdd lle mae meddygon teulu, er enghraifft, yn gallu gweithio o gartref. Mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd ac, wrth gwrs, bydd hynny'n gorfod cael ei ystyried i weld pa mor effeithiol yw hynny. So, ydy, mae'n wir i ddweud nad yw'r gwasanaeth wedi bod o'r safon y byddwn i'n ei erfyn o'r bwrdd iechyd, ond dyna beth mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud er mwyn datrys y sefyllfa.
Prif Weinidog, mae'n amlwg bod yna broblem enfawr ynglŷn â doctoriaid tu allan i oriau yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, ac un o'r sgil effeithiau yw bod hyn yn rhoi pwysau difrifol ar wasanaethau A&E, er enghraifft. Mae opsiynau ymgynghoriad presennol y bwrdd iechyd yn golygu y bydd ysbyty Llwynhelyg yn cael ei israddio i ysbyty gymunedol heb wasanaethau A&E, sydd yn hollol annerbyniol. A ydych chi'n cytuno â fi, felly, ei bod hi'n bwysicach fyth bod gwasanaethau A&E ar gael i bobl yn sir Benfro o ystyried bod yna broblem enfawr gyda doctoriaid tu allan i oriau, ac y dylai bwrdd iechyd Hywel Dda o leiaf gydnabod hyn yn ei ymgynghoriad ar ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru?
Wel, ni allaf i ddim mynegi barn, wrth gwrs, ynglŷn â'r ymgynghoriad. Mae'n bwysig bod yr ymgynghoriad yn cymryd lle. Mae'n bwysig ei fod e'n agored ac mae'n bwysig bod pobl yn cael y cyfle, wrth gwrs, i fynegi barn yn y broses ei hunan er mwyn eu bod nhw'n gallu dweud pa mor gryf maen nhw'n teimlo ynglŷn ag unrhyw issue. Ynglŷn â sir Benfro, mae yna chwe meddyg teulu sydd yn cael eu hyfforddi yn ychwanegol yn sir Benfro, ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, sydd o help i'r ardal. Hefyd, mae yna chwe doctor ychwanegol ar rotas yr ysbytai yn yr ardal leol, achos y ffaith bod y doctoriaid hyn yn chwarae rhan yn yr ysbyty ei hunan. Felly, rydym ni wedi bod yn llwyddiannus yn denu doctoriaid i mewn i ardaloedd Ceredigion a gogledd Penfro, a byddwn i'n erfyn y bydd Hywel Dda yn sicrhau eu bod nhw'n dal i barhau i dynnu doctoriaid i mewn er mwyn sicrhau bod yna ddigon o ddoctoriaid ar gael dros nos.