Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 8 Mai 2018.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Blaid Cymru ynglŷn â chynigion i breifateiddio gwasanaethau dialysis yng ngogledd Cymru, mi ddywedoch chi, ar 31 Ionawr, eich bod chi yn gwbl yn erbyn preifateiddio.
'We are completely against privatisation', meddech chi. Nawr rŷm ni'n ffeindio mas, wrth gwrs, fod Betsi Cadwaladr yn gwthio ymlaen gyda chynlluniau i breifateiddio'r gwasanaethau dialysis yna ar draws y gogledd. Mae'r staff yn dweud wrthyf i nad ydyn nhw eisiau trosglwyddo o'r NHS i'r sector preifat, ac maen nhw hefyd yn dweud nad ydyn nhw'n teimlo bod yna ddigon o ymgynghori wedi bod â nhw, ac yn sicr, nid oes dim ymgynghori wedi bod â chleifion nag â'r cyhoedd yn ehangach. Ac mae gen i lythyr gan y bwrdd iechyd yn cadarnhau bod ganddyn nhw gefnogaeth eich Llywodraeth chi i'r cynnig yma. Llywodraeth Lafur yn gadael i wasanaethau cyhoeddus drosglwyddo o'r NHS i'r sector preifat—rhywbeth rŷch chi'n ei geryddu pan mae'r Ceidwadwyr yn ei wneud yn Lloegr.
Felly, pan oeddech chi'n dweud wrthym ni ar 30 Ionawr eich bod chi yn llwyr yn erbyn preifateiddio, a oedd hynny'n awgrymu efallai nad ydych chi'n gwybod beth sy'n digwydd yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru neu, yn wir, a oeddech chi'n trial ein camarwain ni?