Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 8 Mai 2018.
Na, dim o gwbl, a hoffwn i weld y llythyr y mae'r Aelod yn sôn amdano i weld beth yn gymwys sydd yn y llythyr hynny, a chaf i aros, felly, i weld beth ddigwyddith ynglŷn â hynny.
Mae hon yn broses y mae Betsi Cadwaladr wedi dechrau ac mae'n mynd i orffen erbyn mis Gorffennaf. Beth maen nhw'n trial ei wneud yw sicrhau bod y gwasanaeth gorau ar gael i'w cleifion nhw, ac mae yna ddyletswydd arnyn nhw i sicrhau eu bod hynny'n digwydd.