Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd.
Yn dilyn canslo trydaneiddio prif reilffordd y Great Western rhwng Caerdydd ac Abertawe, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddatblygiad achosion busnes ar gyfer cynlluniau gwella rheilffyrdd ledled Cymru, gan gynnwys gwelliannau i'r prif reilffyrdd yn y de a'r gogledd, gwelliannau i'r lein rhwng Wrecsam a Bidston, a gwelliannau o gwmpas Abertawe a gorsaf Caerdydd Canolog. Croesewir yr ymrwymiad hwn. Gwneuthum yn glir i'r Ysgrifennydd Gwladol fy mod i'n disgwyl i'r datblygiad a'r cyflawniad ddigwydd yn gyflym i'w roi ar waith yn gynnar yn y degawd nesaf er mwyn cyflawni gwelliannau ar gyfer teithwyr yng Nghymru sy'n profi cyflymder araf, dibynadwyedd gwael a chyfleusterau rhwydwaith annigonol yn ddyddiol.
Mae trydaneiddio prif reilffordd y Great Western yn fan cychwyn i welliannau yn y dyfodol; nid dyma'r gyrchfan terfynol. Bydd contract gwasanaethau rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau—y cyntaf i gael ei gynllunio a'i ddarparu yng Nghymru—yn cyflawni newid gweddnewidiol i deithwyr. Fodd bynnag, mae ein gwasanaethau trenau yn dibynnu ar seilwaith rheilffyrdd effeithlon a dibynadwy i ddarparu'r cyflymderau a'r galluoedd sy'n diwallu anghenion cysylltedd pobl yn ein dinasoedd, ein trefi a'n cymunedau gwledig.
Yn ddiweddar hefyd rwyf wedi rhannu fy uchelgais ar gyfer y fasnachfraint Great Western newydd gydag Aelodau ac wedi ailadrodd fy nisgwyliadau ar gyfer caffael masnachfraint partneriaeth arfordir y gorllewin gyda'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn ôl ym 1977, roedd hi'n bosibl mynd o Lundain i Gaerdydd ar y gwasanaethau trên cyflym newydd bryd hynny mewn awr a 45 munud, 15 munud yn fyrrach na'r amseroedd teithio cyflymaf presennol. Bryd hynny, cymerai'r gwasanaeth i Fanceinion o Lundain 2.5 awr. O ganlyniad i £9 biliwn o uwchraddio prif reilffordd arfordir y gorllewin yn y 2000au cynnar, nid yw Manceinion bellach ond dwy awr a phum munud o Lundain, yr un fath ag o Lundain i Gaerdydd, er bod Manceinion, wrth gwrs, 50 cilometr ymhellach i ffwrdd. Mae'r buddsoddiad hwn hefyd wedi caniatáu siwrneiau o Stafford i Lundain mewn awr ac 20 munud—pellter tebyg i'r un o Gasnewydd i Lundain, sydd 30 munud yn arafach.
Yn dilyn cwtogi'r trydaneiddio ar brif reilffordd y Great Western, bydd amserau teithio o Gaerdydd i Lundain, ar y gorau, yn awr a 45 munud, yr un fath â 30 mlynedd yn ôl, a bydd Abertawe yn dal i fod yn ddwy awr a 45 munud. Yn yr un modd, mae'r daith trên o orsaf Caerdydd Canolog i Temple Meads Bryste yn araf ac yn anaml, gan rwystro datblygiad cysylltiadau economaidd trawsffiniol cryfach.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £55 biliwn mewn rheilffordd cyflymder uchel 2 i leihau ymhellach yr amseroedd teithio i Fanceinion i ychydig dros un awr a darparu gwelliannau sylweddol yn yr amseroedd teithio ar draws canolbarth Lloegr, gogledd Lloegr a'r Alban. Os bydd Llywodraeth y DU yn gwneud y dewisiadau iawn ar HS2, yn arbennig o amgylch canolfan Crewe a'r patrymau gwasanaeth arfaethedig, bydd yn darparu budd economaidd sylweddol i ogledd Cymru.
Mae cysylltedd ledled de-ddwyrain Lloegr yn cael ei wella ymhellach gan y cynllun Crossrail £15 biliwn ac ar draws gogledd Lloegr drwy'r rhaglen £3 biliwn llwybr traws-Penwynion, ac mae cynlluniau uchelgeisiol yn cael eu datblygu ar gyfer rheilffyrdd Northern Powerhouse a Crossrail 2. Er y bydd y buddsoddiadau hyn yn darparu capasiti mawr ei angen ar rwydwaith rheilffyrdd y DU, bydd eu heffaith ar amseroedd teithio hyd yn oed yn fwy sylweddol. Bydd y lleoedd hynny sy'n cael eu gwasanaethu'n uniongyrchol gan HS2 yn elwa ar amseroedd teithio sylweddol gyflymach i Lundain, gan leihau o bosibl cystadleurwydd lleoliadau yng Nghymru ar gyfer buddsoddiad o'r tu allan. Mae ffigurau Llywodraeth y DU ei hunan yn awgrymu y bydd HS2 yn cael effaith negyddol o hyd at £200 miliwn y flwyddyn ar economi de Cymru.