Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 8 Mai 2018.
Nawr, wrth inni edrych y tu hwnt i Brexit, mae cysylltedd Cymru gyda chanolfannau economaidd a phyrth rhyngwladol Prydain yn dod hyd yn oed yn fwy pwysig. Ni allwn ni yng Nghymru fforddio cael ein rhoi o'r neilltu ac mae'n rhaid datblygu achos cadarnhaol a grymus ar gyfer buddsoddiad mawr mewn trafnidiaeth sy'n mynd i'r afael â'n huchelgais economaidd ac amcanion ehangach ein lles. Rydym ni'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid ar gyfer gwelliannau i rwydweithiau rheilffyrdd yng Nghymru, ond ni allwn sefyll ar yr ymylon yn cwyno; mae angen inni nodi ein disgwyliadau ar gyfer y rhwydwaith a bod yn glir ynghylch y manteision cymdeithasol ac economaidd a ragwelir.
Fel man cychwyn, byddwn yn nodi rhai anghenion cyffredinol, sy'n cynnwys: gwella cysylltedd a lleihau'r amser teithio rhwng dinasoedd yng Nghymru; ehangu ardaloedd yr ardaloedd dinas-ranbarth ledled Cymru; tyfu economïau trawsffiniol; gwella cysylltedd o Gymru i Lundain; gwella mynediad i feysydd awyr; cynyddu i'r eithaf fanteision posibl a gwrthbwyso canlyniadau negyddol HS2; darparu dewisiadau teithio cymhellol i ddefnyddwyr yr M4 lle y ceir tagfeydd yn Abertawe; a bodloni safonau rhwydwaith traws-Ewropeaidd. Mae gan y gofynion hyn lawer o ryng-ddibyniaeth. Bydd yr atebion yn cynnwys prosiectau cydategol lluosog. Mae achos rhaglen amlinellol strategol yn ffordd i dynnu'r llinynnau hyn ynghyd, gan sicrhau bod y cyd-destun economaidd, daearyddol a chymdeithasol o fewn y cynlluniau posibl yn cael eu datblygu ac yn gyson ac wedi eu deall gan bawb. Rwyf wedi gofyn i'r Athro Mark Barry arwain ar hyn, gan weithio gyda fy adran i a Thrafnidiaeth Cymru.
Gan fod effaith HS2 yn wahanol ar draws Cymru, bydd yr Athro Barry yn cynhyrchu un achos ar gyfer y gogledd ac un arall ar gyfer y de, ac nid ydym yn esgeuluso rheilffordd y Cambrian drwy'r Canolbarth, sydd hefyd yn darparu cysylltedd pwysig o fewn Cymru ac ar draws y ffin. Bydd y gwaith hwn yn llywio achosion busnes amlinellol strategol y cynlluniau unigol sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan Trafnidiaeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth, a diben y rhaglenni achosion busnes hyn yw sefydlu'r angen am fuddsoddiad a mynegi canlyniadau lefel uchel. Byddant yn sefydlu gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y dyfodol i rwydweithiau'r gogledd a'r de sy'n bodloni dyheadau Llywodraeth Cymru ac, yn wir, dyheadau rhanddeiliaid allweddol eraill. Byddant hefyd yn nodi ac yn ystyried dewisiadau ar gyfer buddsoddi sy'n ategu gwaith parhaus i gynllunio a chyflwyno systemau metro yn y gogledd a'r de.
O hyn, bydd y dewisiadau hynny sy'n haeddu ymchwiliad manylach yn cael eu nodi a'u datblygu drwy broses achos busnes manwl lle'r ydym yn dibynnu ar Lywodraeth y DU i wneud penderfyniadau er budd teithwyr yng Nghymru er mwyn ategu'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwella ei seilwaith trafnidiaeth ei hun. Ar y cam cynnar hwn, nid oes unrhyw ddewisiadau wedi eu cadarnhau na'u diystyru. Mae penderfynu ar yr ymyraethau mwyaf priodol yn gofyn am ymagwedd strategol a chynllun tymor hir ac un sy'n adeiladu ar astudiaethau o lwybrau Network Rail, cynlluniau ac uchelgeisiau awdurdodau lleol a dinas-ranbarthau, ac sydd hefyd yn ategu cynlluniau gwella yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth y DU ehangach hefyd.
Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag asiantaethau ar ddwy ochr y ffin i ddarparu system drafnidiaeth integredig. Mae hyn yn golygu cysylltiadau gyda'n dinas-ranbarthau mawr, rhyngddynt, ac ar draws y ffin i Loegr, gan adeiladu ar fy nghyfarfodydd diweddar â meiri metro Manceinion a Lerpwl, ein memorandwm o gyd-ddealltwriaeth gyda Transport for the North, ein gwaith gyda Growth Track 360, Merseytravel, Midlands Connect a'r West of England Combined Authority. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan ddefnyddio ein canllawiau WelTAG ein hunain ac fe fydd yn ateb gofynion Llywodraeth y DU. Rwyf eisiau gweld rhaglen uchelgeisiol o welliannau sy'n cyflawni newid sylweddol i deithwyr ac a fydd, waeth beth fo'r fargen derfynol a geir ynglŷn ag ymadawiad Prydain o'r Undeb Ewropeaidd, yn arwain at y prif reilffyrdd yn y gogledd a'r de yn cael eu datblygu fel coridorau traws-Ewropeaidd drwy fodloni'r safonau sy'n berthnasol iddynt ar hyn o bryd o dan y Rheoliadau.
Mae'n fwriad gennyf, Dirprwy Lywydd, i wneud rhai o'r cynigion a'r dewisiadau sy'n dod i'r amlwg yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod ail hanner eleni. Rydym yn benderfynol, yn y dyfodol, y bydd cynlluniau a gyflwynir yn gadarn, yn gyflawnadwy ac yn seiliedig ar ddadansoddiad strategol ac economaidd cadarn. Rwyf i eisiau gweld gwelliannau i'r rhwydwaith rheilffordd sy'n cyflawni'r amcanion ehangach a ddisgrifiais yn gynharach ac, wrth wneud hynny, darparu sylfaen gadarn ar gyfer economi Cymru a'i ddatblygiad yn y dyfodol.