Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 8 Mai 2018.
A gaf i ddiolch i Weinidog y Cabinet am ei ddatganiad sydd, yn sgil cyhoeddiadau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, yn ein diweddaru ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer prif reilffyrdd y Great Western a'r gogledd? Rydych chi'n dweud, Gweinidog y Cabinet, fod yr ymrwymiad hwn i'w groesawu, ond mae'n ymddangos bod y cyhoeddiad hwn yn ymdrin dim ond â datblygu achosion busnes ar gyfer gwelliannau rheilffyrdd yng Nghymru. Yng ngoleuni'r penderfyniad ar drydaneiddio lein Abertawe, a sylwadau a wnaed yn ddiweddar ar ddatblygiadau Bae Abertawe, rhaid i rywun ofyn: a yw'r cyhoeddiadau hyn mewn gwirionedd yn gyfystyr ag ymrwymiadau cadarn?
Mae'n amlwg iawn fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i rai gwelliannau deniadol i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn Lloegr. Gwnaethoch chi sôn eich hun am y £15 biliwn o fuddsoddiad Crossrail a chynllun £3 biliwn traws y Penwynion. Roeddech chi hefyd, wrth gwrs, yn cyfeirio at y prosiect drud iawn cyflymder uchel 2, sydd yn debygol o lyncu hyd at £55 biliwn, o leiaf, ac, yn rhyfedd iawn, rydych chi'n nodi ei effaith negyddol bosibl ar economi Cymru, sydd mewn gwrthgyferbyniad llwyr â barn Llywodraeth Cymru pan oedd UKIP yn ei drafod yn y Siambr hon, pan oeddech chi'n mynnu, o'i gymharu â dadansoddiad UKIP, y byddai yn hwb mawr i economi Cymru.
Mae UKIP yn cytuno â'r uchelgeisiau cyffredinol a nodwyd gennych, a byddwn yn parhau i gefnogi'r Llywodraeth yn ei hymdrechion i sicrhau gwelliannau seilwaith a amlinellir yn yr anghenion hynny. Ond yng ngoleuni'r cyhoeddiadau hyn, onid oes angen cael dadl lawn ar wariant San Steffan ar seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru, lle gellid gwyntyllu'r gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer gofynion Llywodraeth Cymru, gyda'r effaith o gryfhau eich grym mewn unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU?