Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 8 Mai 2018.
O ran y pwynt penodol hwnnw y siaradodd yr Aelod amdano olaf, gallaf gadarnhau mai ein safbwynt yn dal i fod yw nad ydym yn edrych ar unrhyw ostyngiadau mewn gwasanaethau yng Nghymru, neu unrhyw ostyngiadau mewn hygyrchedd gorsafoedd, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Network Rail i'r perwyl hwnnw. Mae hynny'n cynnwys gorsaf Castell-nedd.
Nawr, os ydym ni'n edrych ar sut y gallwch chi wella amserau teithio tra'n cynnal gorsafoedd fel Castell-nedd ar y brif lein, gallwch chi edrych yn gyntaf ar wella gorsafoedd, gallwch chi edrych ar welliannau i'r signalau, gwelliannau i'r pwyntiau—mae'n ffaith bod gan y trenau hynny sy'n gweithredu ar hyn o bryd ar lein y Great Western y potensial i deithio hyd at 140 milltir yr awr, ond oherwydd signalau gwael, pwyntiau gwael ac ati—y ffactorau hynny a nodais eisoes—a gormod o groesfannau, dim ond un pwynt sydd ar y lein gyfan lle maen nhw'n gallu teithio ar 125 mya. Felly, cyn i chi hyd yn oed edrych ar brif elfennau seilwaith rheilffyrdd, dylech yn gyntaf edrych ar signalau, pwyntiau a chroesfannau, er mwyn gwella cyflymder y trenau sy'n teithio. Byddai hynny'n lleihau'r amserau teithio rhwng Llundain a Chaerdydd, a thu hwnt i orllewin Cymru, cyn y byddai angen rhoi unrhyw ystyriaeth i drac neu orsafoedd. Felly, gallaf ddweud nad ydym ni'n edrych ar unrhyw ostyngiadau. Nid dim ond amddiffyn gorsafoedd a gwasanaethau a darpariaeth gwasanaethau i orsafoedd yng Nghymru yr ydym yn ei ddymuno; rydym ni'n dymuno eu gweld yn cael eu gwella, ac mae hynny'n cynnwys gorsaf Castell-nedd.
O ran hyrwyddo rheilffordd genedlaethol, nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn cyfeirio at reilffordd genedlaethol o ran trenau a thrac—rheilffordd genedlaethol wedi'i hintegreiddio'n fertigol. Credaf mai dyna beth yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ato. Y ffaith yw, ar hyn o bryd, fodd bynnag, fel y nododd yr Aelod, nid oes gennym ni ddatganoli cyfrifoldeb neu gyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd. Byddem yn bryderus iawn am ddatblygu'r syniad o ddefnyddio ein harian ein hunain, ym mha bynnag ffordd neu ffurf y gallai hynny fod, i atodi'r tanariannu hanesyddol ar seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. I mi, byddai hynny fel codi baner wen i Lywodraeth sydd wedi tanfuddsoddi yn ein seilwaith rheilffyrdd o ddim ond 1 y cant o fuddsoddiad ar draws y DU yn y cyfnod rheoli diweddaraf, er gwaethaf y ffaith fod gennym 10 i 11 y cant o filltiroedd trac. Nawr, gwn y gallai awgrym yr aelod am reilffordd genedlaethol edrych yn ddeniadol, ond a yw hefyd yn cynnig, fel rhan o'r rheilffordd genedlaethol, o gofio ei fod yn siarad am yr angen i gael cysylltedd o fewn Cymru nad oes o reidrwydd raid cynnwys cysylltedd tu allan i Gymru—? A yw'r Aelod yn awgrymu felly ein bod yn cael traciau newydd wedi'u hadeiladu ochr yn ochr â'r rhwydwaith presennol, er enghraifft rhwng y gogledd a'r de, ym Mhowys, sy'n rhedeg ochr yn ochr â seilwaith sydd eisoes yn bodoli mewn gwirionedd? Oherwydd credaf, mewn gwirionedd, yn gyffredinol, mae pobl yn fodlon ar y seilwaith sydd ar waith. Yr hyn nad yw pobl yn fodlon ag ef yw ansawdd y seilwaith, sy'n dal yn ôl nid dim ond argaeledd gwasanaethau aml ond hefyd yn dal yn ôl cyflymder y trenau. Credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn dymuno gweld buddsoddiad yn cael ei sianelu i'r seilwaith presennol i sicrhau bod trenau yn teithio yn fwy aml ac yn teithio yn gynt, tra ar yr un pryd yn gwneud yn siŵr bod cytundebau masnachfraint ar waith i godi ansawdd y gwasanaethau sy'n rhedeg ar y trac.
Awgrymodd yr Aelod nad yw'r datganiad yn siarad am gysylltu Cymru yn fewnol. Wel, holl bwynt ein datblygiadau metro yn y gogledd, yn y de-ddwyrain ac yn y de-orllewin yw cysylltu cymunedau o fewn Cymru yn well. Mae'r rhain yn eithriadol o uchelgeisiol. Yn wir, galwyd nhw gan y Pwyllgor y mae'r Aelod yn eistedd arno yn gynigion uchelgeisiol arwrol yr ydym yn eu datblygu, ac yn ddiweddarach y mis hwn byddwn yn ystyried, yn y Cabinet, y cynigydd a ffafrir ar gyfer y fasnachfraint nesaf, a'r partner datblygu ar gyfer y metro, a'r nod yw, fel y dywedaf, sicrhau bod ein cymunedau wedi'u cysylltu yn well o fewn Cymru. Hefyd, o ran cysylltu cymunedau yn well, bydd y cynigion uchelgeisiol yr ymgynghorir arnyn nhw yn y misoedd i ddod, ynghylch diwygio gwasanaethau bws lleol, unwaith eto yn dangos ein penderfyniad i sicrhau, boed yn drenau neu'n fysiau, yn deithio llesol neu'n gyfuniad o bob un, ein bod yn buddsoddi mwy nag o'r blaen, ac mae gennym uchelgais mwy nag erioed o'r blaen o ran cysylltu ein cymunedau yng Nghymru gyda'i gilydd.