Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch ichi, Paul Davies, am y sylwadau a'r cwestiynau yna.
Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir: mae'n golygu cael y cydbwysedd cywir, ac felly dyna pam y dechreuais o'r cychwyn cyntaf fod â grŵp rhanddeiliaid, ac fe roddais i deyrnged iddyn nhw. Rwy'n ddiolchgar iawn am eu mewnbwn a cheir yn y cyfarfodydd hynny bob amser drafodaeth dda iawn, ac mae'r is-grwpiau sydd wedi deillio o'r grŵp rhanddeiliaid hwnnw yn sicr wedi bod yn hynod ddefnyddiol o ran cyrraedd y man yr ydym ynddo nawr ac yn sicr bydd yn dal i fod yn bwysig iawn wrth fynd ymlaen.
Rydych chi'n iawn, byddwn ni yn mynd allan i ymgynghoriad. Soniais y byddwn yn lansio dogfen ymgynghori ddechrau mis Gorffennaf. Credaf ei bod yn bwysig iawn inni ei gael allan yno cyn Sioe Frenhinol Cymru a'r sioeau haf eraill lle gallaf i fy hunan, fy swyddogion a'm staff rheng flaen siarad â llawer o ffermwyr a choedwigwyr ac, yn amlwg, â phobl sy'n gweithio i'r sefydliadau amgylcheddol.
Roeddech chi'n gofyn pa fath o bethau yr oeddem yn eu hystyried o flaen yr ymgynghoriad. Felly, o ran nwyddau cyhoeddus, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dal i edrych ar leihau allyriadau carbon parhaus a'n bod yn gallu parhau i ddal a storio carbon yn gynyddol. Rwy'n awyddus, mae'n amlwg, inni barhau i reoli'r cyflenwad dŵr, gwella ansawdd dŵr, gwella ansawdd yr aer, ac edrych ar ein tirwedd a'n treftadaeth ni. Rwy'n awyddus iawn hefyd i edrych ar iechyd a hygyrchedd a chyfleoedd am addysg.
Bydd cynhyrchu bwyd yn dod o dan gydnerthedd economaidd. Ac eto, ochr yn ochr â hynny, byddwn yn edrych ar gymorth i welliant cynaliadwy, yn enwedig o ran amaethyddiaeth fanwl a chymorth i arallgyfeirio. Rwyf wedi gweld rhai enghreifftiau ardderchog o arallgyfeirio: roeddwn i ym Mhennal ddydd Iau diwethaf lle gwelais i un o'r cynlluniau trydan dŵr gorau a welais i ar fferm, mae'n debyg, a'r hyn a'm trawodd i oedd fod y ffasiwn beth i'w gael yno. Rwy'n cyfaddef bod rhywun wedi bod yno ac arloesi a rhoi'r cynllun yn ei le, ond roedd y dŵr yno, ac erbyn hyn mae gennym y cynllun ynni dŵr gwych hwn. Felly, mae'n ymwneud â chefnogi arallgyfeirio hefyd.
Rydych chi'n iawn, yn fy marn i, o ran ariannu i'r dyfodol, ein bod wedi cael sicrwydd y bydd yr arian ar gael tan 2022, ac rydym wedi'i gwneud yn glir iawn y bydd yr arian hwnnw ar gael i'r sector tan 2022. Ond, wedi hynny, nid oes gennym syniad faint o arian y byddwn yn ei gael. Felly, byddwch yn ymwybodol o'r cyfarfodydd pedairochrog sydd gennyf—bydd gennym ni un ddydd Llun yng Nghaeredin—rydym yn parhau i estyn gwahoddiad i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ddod yno; yn anffodus, nid yw wedi gallu gwneud hynny hyd yma. Ond mae'n rhaid i hyn fod yn eitem sefydlog gan fod angen inni wybod beth fydd gennym o 2022 ymlaen. Ond bydd yr arian hwnnw ar gael. Er nad wyf i ond wedi nodi'r hyn fydd yn digwydd tan 2020, bydd y swm hwnnw o arian ar gael tan 2022. Ond mae angen inni edrych wedyn, yn amlwg, ar sut y byddwn ni'n cefnogi ein ffermwyr a'n rheolwyr tir.
Mae'n golygu gwneud ein sector amaethyddol mor gydnerth â phosibl ar gyfer yr hyn a ddaw. Un o'r pethau yr ydym wedi'u gwneud—fe'i gwnaethom gyda'r sector llaeth y llynedd—roedd gennym rywfaint o gyllid Ewropeaidd yr oeddem yn arfer ei feincnodi fel y gallai ffermwyr llaeth weld sut pa mor gydnerth yr oedden nhw ac ym mhle yr oedd yr angen iddyn nhw wella. Byddwn yn awyddus iawn—rwy'n awyddus iawn—i wneud hynny ar gyfer defaid a chig eidion hefyd, ac rwy'n ceisio dod o hyd i rywfaint o gyllid i wneud hynny. Felly, dyna'r mathau o bethau y byddwn yn eu gwneud i roi cymorth.
Roeddech chi'n sôn am adroddiad 'Dyfodol rheoli tir yng Nghymru' gan y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Roedd rhai argymhellion diddorol ynddo, y mae fy swyddogion a minnau wrthi'n eu hystyried ar hyn o bryd. Eto, roedd rhai argymhellion nad oedden nhw mewn gwirionedd yn perthyn i bolisi rheoli tir yn benodol, ond roeddwn i o'r farn bod yr adroddiad yn dda iawn yn wir.
O ran rheoliad, soniais mai ein cyfle ni yw hwn mewn gwirionedd—mae'n gyfle mawr—i edrych ar yr ystod lawn o fesurau sydd ar gael inni ar gyfer cyfundrefn reoleiddio'r dyfodol. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys rheoliad, yn cynnwys buddsoddiadau, a bydd hefyd yn cynnwys triniaethau gwirfoddol. Eto, mae angen inni edrych i weld i bwy y byddan nhw'n berthnasol. Byddant yn berthnasol i'r holl reolwyr tir, mae'n amlwg, ond mae angen inni edrych ar hynny wrth inni fwrw ymlaen. Mae rheoliadau cyfredol mewn grym o hyd sydd yn rhaid cydymffurfio â nhw, a chredaf fod pawb yn cydnabod hynny.
O ran deddfwriaeth, rwyf bob amser wedi egluro'n fanwl y byddai gennym ein polisi amaethyddol ein hunain i Gymru, ond soniais fy mod yn cadw'r holl ddewisiadau yn agored o ran Bil Amaethyddiaeth y DU. Yn anffodus, ni chawsom ddrafft, ac roeddem wedi gobeithio ei gael erbyn hyn, ond ni chafodd ei rannu. Felly, byddwn yn gofyn unwaith eto ddydd Llun.
Mae'r gweithlu yn hynod bwysig, oherwydd rwy'n siŵr eich bod chi, fel minnau, wedi cael gwybod bod llawer o wladolion yr UE yn gweithio yn y sector ac mae pryder enfawr, nid yn unig ymysg y rheolwyr tir a'r ffermwyr, ond hefyd y ffatrïoedd prosesu. Felly, sgwrs yw honno yr wyf i'n ei chael ac y mae cyd-Weinidogion eraill yn ei chael hefyd mewn cysylltiad â thrafodaethau Brexit. Ond mae'n destun pryder mawr iawn.
Cytunaf yn llwyr â chi, ac rwy'n falch eich bod wedi nodi'r hyn a ddywedais am gymunedau a'r iaith Gymraeg a pha mor bwysig—. Yr iaith Gymraeg oddi mewn i amaethyddiaeth—fe'i defnyddir yn amlach nag yn unrhyw sector arall, yn y sector amaethyddol. A gwers arall a ddysgais yn Seland Newydd oedd, pan welson nhw ymyl y dibyn yno a'r newid enfawr yn eu ffordd o fyw yn Seland Newydd yn ôl ym 1984, collwyd llawer o'r cymunedau gan fod y ffermydd wedi mynd yn fwy o faint. Felly, gan hynny, gwelodd y cymunedau newid anferthol, ac rwy'n awyddus iawn na fydd hynny'n digwydd yma yng Nghymru.