Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 8 Mai 2018.
Wrth gwrs, gwyddom fod y diwydiant amaethyddol yng Nghymru wedi cael ei integreiddio yn agos â'r farchnad Ewropeaidd, ac rydym i gyd yn cydnabod y byddai gosod tariffau rhwng y DU a'r UE yn niweidiol iawn i ffermwyr Cymru. Rwy'n gwybod mai dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater, ond efallai yn ei hymateb y gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau gyda'i chymheiriaid yn y DU ac, yn wir, ei chymheiriaid yn Ewrop ar sut i amddiffyn y diwydiant i'r dyfodol.
Nawr, ym mis Mawrth y llynedd, cynhaliodd y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymchwiliad i ddyfodol rheoli tir yng Nghymru. Yn rhan o'r ymgynghoriad, roedd Undeb Amaethwyr Cymru yn ei gwneud yn glir y dylai Llywodraethau fynd ati'n rhagweithiol i gefnogi bwyd a ffermio yn y DU drwy eu polisïau caffael eu hunain. Yn yr amgylchiadau, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym yn awr am arferion caffael Llywodraeth Cymru o ran ffermio ac egluro pa gamau newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd ers ymchwiliad y Pwyllgor i fynd i'r afael â'r pwynt hwn yn benodol.
Er ei bod yn amlwg fod yna lawer o heriau o ran rheoli tir i Gymru ar ôl Brexit, ceir digonedd o gyfleoedd hefyd. Gall datblygu polisi amaethyddol domestig i Gymru bellach fod yn gyfle i Lywodraeth Cymru edrych o ddifrif ar y tirlun rheoleiddio presennol ar gyfer ffermwyr, ac rwy'n falch fod y datganiad heddiw yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar fframwaith newydd a hyblyg. Cafodd hyn ei hyrwyddo gan y diwydiant ers tro. Yn wir, mae NFU Cymru yn dweud wrthym mai rheoliad gwael yn aml sy'n cael ei nodi'n rheswm dros ddiffyg hyder busnes mewn fferm, a'i fod yn ychwanegu at lwyth gwaith y ffermwyr yn sylweddol. Bellach mae gan Lywodraeth Cymru y cyfle i adfer y tirlun hwn a sicrhau bod dulliau mwy gwirfoddol yn cael eu mabwysiadu i sicrhau, pan gyflwynir rheoliadau, y cânt eu cefnogi gan dystiolaeth ddeallus a chadarn.
Rydym yn gwybod nad yw Llywodraeth Cymru wedi cau'r drws yn glep eto ar barthau arfaethedig o nitradau peryglus yng Nghymru, ac mae hon yn enghraifft glir o'r hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn well i gefnogi ffermwyr Cymru. O ystyried y beichiau y gall rheoleiddio sâl ac anghymesur eu rhoi ar ffermwyr Cymru, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet sôn wrthym ni am ei syniadau cychwynnol ar fynd i'r afael â'r tirlun rheoleiddio i gefnogi rheoli tir yn well.
Mae datganiad heddiw yn awgrymu symudiad tuag at gyflwyno deddfwriaeth, ac efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa bryd y mae hi'n bwriadu gwneud penderfyniad mwy cadarn ar hynny, ynghyd â pha adborth cychwynnol y mae hi wedi'i dderbyn eisoes gan y diwydiant ar yr agenda benodol hon.
Hoffwn fynegi eto'n fyr i Ysgrifennydd y Cabinet bwysigrwydd cael gweithlu sefydlog a chynhyrchiol ar gyfer y sector ffermio, a byddaf yn ddiolchgar am unrhyw ddiweddariadau i'r trafodaethau a gafodd gyda gweddill y DU a'r UE am anghenion gwaith Cymru.
Yn olaf, Llywydd—ac nid yn lleiaf—hoffwn roi ar gofnod pa mor arwyddocaol yw diwydiant amaethyddol Cymru, nid yn unig i'n heconomi ni, ond i'n diwylliant ni hefyd, ac rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi mynegi pa mor bwysig yw ffermio i'n cymunedau gwledig a'r iaith Gymraeg heddiw. Gan hynny, wrth gloi, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Edrychaf ymlaen at graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru gyda'i pholisïau rheoli tir yn ystod yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod. Diolch.