Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch ichi, Llywydd. Mae bob amser yn bleser i gael fy ngalw gennych chi.
Rwy'n gobeithio y bydd yn dod â llawenydd i galon Ysgrifennydd y Cabinet pan ddywedaf y gallwn i fod wedi ysgrifennu'r datganiad hwn fy hunan, oherwydd fy mod yn cytuno â phob un gair ohono. Credaf ei fod yn ddatganiad ymarferol, optimistaidd a blaengar. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod, yn ystod y cam cynnar hwn, nad yw hi'n gallu roi llawer o fanylion am sut y bydd polisi amaethyddol yn cael ei ddiwygio yng Nghymru, ond roeddwn yn falch iawn o'i chlywed yn dweud ei fod yn gyfle i ailystyried y corff cyfan o reoliadau a etifeddwyd oddi wrth genedlaethau blaenorol. Mae'n rhaid mai hwnnw yw'r polisi iawn—edrych ar bopeth sydd ar waith ar hyn o bryd, fel bod gennym gyfle i newid, pe byddai hynny'n fuddiol i'r ffermwyr ac, yn wir, i'r cyhoedd. Gyda gobaith, bydd hi'n cytuno â mi y dylid seilio ein rheoleiddio yn y dyfodol yn gadarn ar sail gwyddoniaeth ac na ddylem osod costau enfawr ar y diwydiant amaethyddol oherwydd rhyw fanteision ymylol i gymdeithas yn gyffredinol. Felly, rwy'n credu, yn fanwl, y byddwn yn gallu gwneud nifer o newidiadau sylweddol na fyddant yn peryglu buddiannau amgylcheddol, er enghraifft, ar y naill law, drwy wella amgylchiadau economaidd y ffermwyr.
Roeddwn yn falch iawn o weld hefyd ei bod yn dweud nad y cynllun taliad sylfaenol yw'r dull gorau o sicrhau diogelwch i ffermydd. Mae'n sicr yn wir fod effaith y cynllun taliad sylfaenol wedi cynyddu pris tir yn sylweddol, yn hytrach na gwella incwm y ffermwyr. Mae incwm ffermydd, yn gyffredinol, yn isel iawn, iawn o hyd ac mae angen inni wneud cymaint ag y gallwn i wneud incwm ffermwyr yn fwy sicr ac, yn wir, i'w godi yn y dyfodol. Mae'n rhaid ei bod yn iawn dweud y bydd cymorth ar gyfer amaethyddiaeth yn y dyfodol yn canolbwyntio ar ddarparu nwyddau cyhoeddus sy'n cyflenwi ar gyfer holl bobl Cymru.
Rwy'n credu yn bersonol, o'r hyn yr wyf yn ei ddarllen a'r hyn y mae Michael Gove a George Eustice yn ei ddweud, nad oes llawer o anghytundeb rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru a'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn dymuno ei gyflawni. Mae hwn yn gyfle gwych inni gael polisi amaethyddol Prydeinig, ac yn wir, i Gymru sy'n fwy addas i amgylchiadau neilltuol ein gwlad ein hunain. Mae hi'n hollol iawn i dynnu sylw at y cyfuniad unigryw o amgylchiadau sydd gennym i lunio polisi amaethyddol ar gyfer Cymru, sydd â chyfran uchel o ffermydd yn yr ucheldir, er enghraifft, ac sy'n fwy dibynnol ar ffermio defaid, ac yn y blaen. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yn gallu dod yn ôl atom, yn fuan, gydag ychydig mwy o gnawd ar esgyrn y polisi amaethyddol hwn, ond yn gyffredinol, rwy'n croesawu'r egwyddorion sydd yn mynd i fod yn sail iddo.
Un o'r cyfleoedd a gafwyd, hyd yn oed gyda'r cynllun rheoleiddio presennol, yw dangos bod modd inni allu cael polisi gwahanol yng Nghymru. Rwyf wedi dyfynnu cyn heddiw o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd a'r ffaith ein bod yn gallu torri gwrychoedd yng Nghymru ym mis Awst, ond na allan nhw ddim yn Lloegr; mae'n rhaid iddyn nhw aros tan fis Medi. Credaf fod ein polisi ni yn well na'r polisi yn Lloegr, ac efallai fod ffyrdd eraill y gall Cymru arwain gweddill y Deyrnas Unedig drwy esiampl yn y modd y bydd ein polisi amaethyddol ar gyfer y dyfodol yn cael ei lunio.
Rwyf i o'r farn y bydd marchnata wrth galon ffyniant i'r dyfodol ar gyfer ffermwyr yng Nghymru. Tybed a wnewch chi roi unrhyw wybodaeth bellach inni ar yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo brand ar gyfer sector amaethyddol Cymru fel ffordd o sicrhau buddiannau'r diwydiant bwyd a diod, yn ogystal â buddiannau'r ffermwyr, ar ôl Brexit. Mae'n rhaid ei bod yn synhwyrol i wlad orllewinol ddatblygedig fel y Deyrnas Unedig ganolbwyntio ar gynhyrchu nid yn unig ddeunyddiau crai ond y cynhyrchion gwerth uchel y byddai ddefnyddwyr mwy cefnog ledled y byd yn dymuno eu prynu. Wrth rasio tua'r gwaelod nid oes dim i'w ennill o ran cystadleuaeth prisiau. Gwella'r ansawdd fyddai'r ffordd orau ymlaen, yn fy nhyb i.
Roeddwn yn falch o'i chlywed yn sôn am Seland Newydd hefyd—gwlad yr wyf yn ei hadnabod yn lled dda. Cofiaf yn dda siarad â Gweinidogion Llafur yn Seland Newydd yn yr 1980au, a oedd wedi cyflwyno dros nos gamau i ddiddymu diogelwch amaethyddol, cymorthdaliadau a'r gyfundrefn reoleiddiol gyfan. Un o baradocsau'r 1980au yw mai Llywodraeth Lafur Seland Newydd, o dan y Blaid Lafur, a wnaeth hynny a'i bod yn fwy Thatcheraidd na Llywodraeth Thatcher yn y Deyrnas Unedig. Ac mae'n wir fod anawsterau difrifol iawn wedi bod, yn ystod y cyfnod trosiannol. Serch hynny, fe wnaeth Llywodraeth Seland Newydd leddfu'r ergyd mewn gwirionedd drwy sicrhau cyllid i ailstrwythuro ffermydd, a hefyd gyllid ar gyfer taliadau lles cymdeithasol ac ati yn y cyfamser, ond mae'n wir y bu newidiadau enfawr yn y diwydiant. Gwelwyd gostyngiad o 60 y cant ym mhris tir a gostyngiad o 50 y cant yn y defnydd o wrtaith. Felly cafwyd gwelliannau sylweddol i fioamrywiaeth o ganlyniad i'r diwygiadau eithaf dramatig hynny, ac erbyn hyn mae amaethyddiaeth mewn gwirionedd yn fwy, fel cyfran o economi fwy o faint heddiw, nag yr oedd 30 mlynedd yn ôl.
Felly, mae cyfleoedd inni yn sgil dadreoleiddio ac, yn wir, rwy'n credu, drwy reoli a hyd yn oed dorri cymorthdaliadau, pe gallwn sicrhau bod incwm ffermydd, sef y ffactor allweddol yma, yn gallu cynyddu. Does dim pwynt rhoi cymhorthdal yn ddireswm. Yr hyn yr ydym yn ei ddymuno yw diwydiant amaethyddol ffyniannus a ffermwyr llewyrchus. Pe gellid gwneud hynny ar lai o gost i'r trethdalwr, dichon y byddai hynny er lles pawb.