Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch ichi, Neil Hamilton, am y cyfraniad hwnnw. Yn wir, rwy'n credu imi ddweud wrthych pan ddaethoch i'r Siambr hon fy mod yn ceisio bod yn optimistaidd a chwilio am gyfleoedd, a chredaf fod hwn yn gyfle enfawr i ni nawr.
Rwy'n benderfynol y bydd yr ymgynghoriad yn ystyrlon, felly nid oes gennyf unrhyw syniadau sefydlog. Roeddwn yn sôn ein bod wedi gweld llawer o is-grwpiau yn deillio o'r grŵp bord gron gweinidogol ar Brexit, sydd wedi cyflwyno papur masnach, er enghraifft, ac mae eu barn yn bwysig iawn i mi. Un o'r pethau y maen nhw wedi'i ddweud wrthyf i, o'r cychwyn cyntaf, yw nad yw'r sefyllfa gyfredol yn opsiwn, a bod y PAC yn cynnwys rheolau sy'n wrthnysig, a bod hynny yn atal cyflenwad nwyddau cyhoeddus. Er bod y cynllun taliad sylfaenol yn rhoi cymorth pwysig—wrth gwrs ei fod—i lawer o'n ffermwyr, ni fyddai yn eu helpu i wrthsefyll y newidiadau y maen nhw'n sylweddoli fyddai'n dod yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
Rydych chi'n hollol gywir ynglŷn â rheoliad. Mae'n rhaid gwneud hynny pan fo gennym dystiolaeth wyddonol, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn eich bod wedi dweud hynny. Rwyf wedi egluro na ddylai safonau amgylcheddol ostwng, a byddwch wedi fy nghlywed yn dweud, mewn atebion blaenorol, mai un o'r pethau yr wyf yn dymuno'u gwneud yw helpu ffermwyr a rheolwyr tir i fod yn llawer mwy cydnerth i allu gwrthsefyll yr anawsterau sy'n mynd i ddod. Rwy'n credu, hyd yn oed cyn Brexit, fod yr achos dros newid yn gryf, ac rwy'n credu ar ôl Brexit, fod diwygio yn gwbl anochel, a chredaf fod hynny'n hysbys.
Nid wyf i'n credu bod y polisi sydd gennym ar hyn o bryd yn paratoi ein ffermwyr ar gyfer newid yn y tymor hir. Nid yw'r cymorthdaliadau a delir i ffermwyr defaid, yn enwedig, yn ddigon i gadw'r rhan fwyaf ohonynt i ddal ati pan fo hynny'n cyd-fynd â gostyngiad mewn prisiau. Mae pris cig oen yn uchel iawn ar hyn o bryd. Roeddwn yn siarad â ffermwr yr wythnos diwethaf a dywedodd wrthyf ei fod yn cael £30 eleni yn fwy na'r llynedd, yn amlwg oherwydd gwerth y bunt, ac nid yw honno'n duedd a fydd yn parhau, ac nid wyf i'n dymuno iddyn nhw adeiladu eu tŷ ar y tywod.
Roeddech yn sôn nad oeddech o'r farn bod llawer o wahaniaeth rhyngom ni a Lloegr. Rwy'n credu y byddai pob un o bedair gwlad y DU yn dweud bod gennym ni bolisïau amaethyddol sy'n wahanol iawn, ond gallaf eich sicrhau na fydd yna bolisi amaethyddol ar gyfer Prydain. Bydd gan bob gwlad ei pholisi ei hun.
Roeddech yn sôn am Seland Newydd, ac roedd yn dda iawn siarad â Gweinidogion Llafur unwaith eto. Wrth gwrs, Llywodraeth glymblaid a ddaeth i rym fis Tachwedd diwethaf sydd yno. Yn sicr, roedd y ffermwyr y siaradais i â nhw—bûm yn ymweld â rhai ffermydd a siaradais â'r sector ac agweddau eraill ar y sector, ac roeddent yn dweud, wrth gwrs, ei bod yn boenus ofnadwy. A'r wers y bydden nhw'n hoffi i mi ei chofio oedd bod yn rhaid ichi gael cyfnod pontio dros sawl blwyddyn yn hytrach na mynd dros y dibyn, ac yn ddiddorol iawn, er eu bod wedi gweld caledi anhygoel a llawer o boen, a barodd am flynyddoedd lawer, ni fydden nhw'n dymuno mynd yn ôl i'r hen drefn. Ni fydden nhw'n barod i fynd yn ôl i'r hen system a oedd yno, ac roedd hynny, yn sicr, yn rhywbeth y byddaf i'n ei gofio.