Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 8 Mai 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddweud—[Anhyglyw.]—nid wyf i o'r farn fod yn rhaid cael tyndra rhwng amaethyddiaeth gynhyrchiol a gofal am yr amgylchedd. Felly, gallwn yn sicr gyfuno'r nwyddau cyhoeddus a'r dyheadau hyn sydd yn bwysig iawn. Yn amlwg, ceir rhai meysydd lle mae modd inni gael mwy o amrywiaeth o ran cynnyrch, ac mae garddwriaeth yn un maes diddorol iawn yn fy marn i.
Ceir rhai meysydd lle byddem yn dymuno gweld arallgyfeirio mwy radical, ond gan fynd yn ôl efallai at ein gwreiddiau, un maes y byddwn yn ei awgrymu yw coetiroedd a choedwigaeth, sydd, rwy'n credu, yn cynnig ffrwd incwm amgen i lawer o ffermwyr i gyd-fynd â'r bwyd y maent yn ei gynhyrchu. Nawr, byddwch yn gwybod—mae'n ddrwg gennyf i ailadrodd y ffigurau hyn eto—ond ers 2010, nid yw Cymru ond wedi llwyddo i blannu 3,500 hectar o goetir. Dylai fod yn plannu rhywbeth fel 5,000 y flwyddyn i gyrraedd ein targed o 100,000 hectar erbyn 2030—o goetir newydd a choedwigaeth, hynny yw.
Felly, rydym yn y sefyllfa yr ydym ynddi, ac mae angen inni edrych eto ar hyn, yn mewn ffordd radical iawn, rwy'n credu. Ond yn fy marn i, ar ôl Brexit, bydd hyn yn rhoi enghraifft dda iawn inni o bawb ar eu hennill, ac mae elw economaidd ar goedwigaeth a choetiroedd yn sylweddol iawn pan fyddwch chi wedi aros mwy na'r cyfnod cychwynnol o 12 i 15 mlynedd pan fydd y coed yn aeddfedu. Felly, credaf y dylem yn sicr edrych ar y maes hwnnw, a chymeradwyaf adroddiad y Pwyllgor, 'Heb Gyrraedd Gwreiddyn y Mater'. Mae'n ffynhonnell dda iawn o wybodaeth am hyn, ac mae'n gofyn inni fod ychydig yn fwy uchelgeisiol yn ein polisi coetiroedd a choedwigaeth, a gobeithio y byddaf yn gweld hynny'n dwyn ffrwyth.