Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch ichi, Jenny Rathbone, am y pwyntiau yna. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn am arddwriaeth, ac roeddwn i'n crybwyll mewn ateb ynghynt bod yna 10,000 o ffermydd nad ydyn nhw'n derbyn unrhyw arian dan gynllun y taliad sylfaenol, ac rwy'n siŵr y bydd rhai ohonyn nhw'n gynwysedig o ran garddwriaeth. Felly, unwaith eto, rwy'n mynd yn ôl: mae gennym ni'r darn gwag o bapur hwnnw ar hyn o bryd, a gallwn wneud yn siŵr ein bod yn edrych am ffordd o'u cynnwys, yn amlwg, yn y cyllid.
Mae lleihau milltiroedd bwyd yn bwysig iawn yn fy ngolwg i, a chredaf eich bod yn llygad eich lle am ysgolion, er enghraifft, sy'n ceisio dod o hyd i ffynhonnell bwyd o fewn eu hardal. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda chydweithwyr yn y Cabinet am y gwasanaeth caffael cenedlaethol a gwella cyfleoedd ar gyfer defnyddio cynnyrch bwyd a diod Cymru, ac, unwaith eto, credaf fod hwnnw'n gyfle mawr iawn yma. Mae gennym fforwm categori bwyd sydd wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i bob cyflenwr gystadlu am dendrau, er enghraifft. Felly, rwy'n awyddus i weld ysgolion ac agweddau eraill ar y sector cyhoeddus yn gallu gwneud hynny.
Mae bwyd a diod yn bwysig iawn—rwy'n sylweddoli nad atebais gwestiynau Neil Hamilton am fwyd a diod. Mae gennym sector bwyd a diod gwych yma yng Nghymru. Byddwch yn ymwybodol o'n targed i gynyddu trosiant i £7 biliwn erbyn 2020. Ar ddiwedd 2016 roeddem eisoes wedi cyrraedd £6.9 biliwn, ac rwy'n edrych am darged arall i'w osod nesaf. Felly, eto, mae angen imi wneud yn siŵr bod y cynlluniau hynny yr ydym yn eu cyflwyno dan ein polisi amaethyddol newydd yn ein galluogi ni i wneud hynny.
Hoffwn weld cynlluniau eraill. Gwn ein bod, yn flaenorol, dan y rhaglen datblygu gwledig, er enghraifft, wedi cefnogi mannau i dyfu bwyd yn gymunedol yng Nghymru, gan weithio gyda ffermydd cymunedol, gerddi cymunedol, perllannau cymunedol, ac rydych chi'n iawn, mae angen inni blannu mwy—mae angen inni blannu mwy o goed, ond yn sicr mae angen inni blannu mwy o goed ffrwythau. Felly, rwy'n dymuno edrych ar sut y gallwn ni gefnogi cynlluniau fel hyn. Hefyd, mae rhandiroedd cymunedol yn bwysig iawn, iawn i'r sector bwyd a diod. Unwaith eto, af yn f'ôl at y darn gwag o bapur hwnnw lle gallwn ddechrau o'r newydd ac y gallwn edrych ar sut i gefnogi pawb—wyddoch chi, busnesau bach a chanolig, microfusnesau bwyd. Hoffwn allu hwyluso ymgysylltiad y farchnad, nad wyf yn credu ein bod wedi gwneud digon ohono.