Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 8 Mai 2018.
Mae David wedi gwneud yn union beth yr oeddwn i am ei wneud, felly nid wyf yn mynd i ailadrodd popeth a ddywedodd, ond rwyf yn credu y bu barn yn y gorffennol ynglŷn â chnydau a choed yn cystadlu am le. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei weld yw dull cydgysylltiedig rhwng y ddwy elfen hynny o amaethyddiaeth, ac edrych ar amaeth-goedwigaeth, lle y gellir plannu coed ochr yn ochr â'r cnydau, a byddai hynny yn ei dro yn hybu cynhyrchu a herio'r uniongrededd hwnnw, y gwnaethoch chi ei grybwyll yma heddiw.
Fe wnaethoch chi sôn, yn gwbl briodol, am y ffaith, drwy roi coed ar y tir, y gallwch chi hefyd reoli'r llifogydd sy'n digwydd yn aml iawn, ac rydym ni wedi gweld llawer iawn o dystiolaeth o hynny. Ond gall hefyd greu gwell bioamrywiaeth a chadwraeth pridd. Pan soniwn am fod yn agored i nitradau, os plannwyd coed ochr yn ochr, efallai na chewch chi'r un lefel o ddŵr ffo yn gwenwyno ein hafonydd. Felly, mae'n ymwneud â mynd ati yn llawn dychymyg, ac ni fu sôn hyd yn hyn am ddal a storio carbon, ond mae yn arwyddocaol.
Rwy'n falch eich bod yn cydnabod, Ysgrifennydd y Cabinet, yr angen i blannu mwy o goed. Rydym ni ar y pwyllgor, ac eraill yma, yn edrych ymlaen at weld egin gwyrdd hynny. A, gan fod David wedi dweud y rhan fwyaf o'r pethau yr oeddwn i'n mynd i'w dweud, dof i ben gyda hynny. Diolch.