Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. Rwyf yn credu, fel y dywedais yn fy ateb i David Melding, nad yw rhai ffermwyr yn dymuno plannu coed ar eu tir oherwydd eu bod yn gofidio am ei golli pan fydd ei angen arnyn nhw efallai ar gyfer cnydau. Ond rwy'n credu eu bod yn dechrau meddwl amdano erbyn hyn yn fwy o safbwynt arallgyfeirio, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni'n gallu eu helpu a hwyluso'r broses honno wrth fynd ymlaen.
Roeddwn i'n meddwl, fel y dywedais, bod yr adroddiad yn dda iawn, ac mae yn cynnig llawer o argymhellion. Fe wnes i sôn am leihau allyriadau carbon parhaus a chynyddu faint o garbon gaiff ei ddal a'i storio fel un o'r nwyddau cyhoeddus y gallwn ei ystyried. Rwy'n credu y bydd hynny'n ein helpu yn rhan o'n hymateb i'r newid yn yr hinsawdd. Mae pethau eraill yn gysylltiedig â nwyddau cyhoeddus rwy'n credu, unwaith eto, y byddai plannu mwy o goed yn helpu â nhw. Soniais am fynediad—unwaith eto, mae pobl o'r farn nad yw ffermwyr yn dymuno bod pobl ar eu tir. Wel, nid dyna fy mhrofiad i. Mae ffermwyr yn falch iawn o ddangos i'r cyhoedd beth maen nhw'n ei wneud ar eu tir, ond rwy'n credu bod tirwedd yn bwysig iawn.
Peth arall sydd wedi'i gyflwyno o drafodaethau bwrdd crwn Brexit yw bod arnynt eisiau cynyddu gallu cynefin i wrthsefyll ac ategu ein tirwedd a bioamrywiaeth yn wirioneddol—felly, mae yma gyfleoedd mawr i allu gwneud hynny.