Part of the debate – Senedd Cymru am 6:38 pm ar 8 Mai 2018.
Byddwn ni'n cefnogi pasio'r Bil hwn yn y cyfnod olaf heddiw. Rydym yn cydnabod, oherwydd ailddosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fod hwn yn ddarn angenrheidiol o ddeddfwriaeth ac rydym yn nodi bod y Bil, ar ei ffurf derfynol, yn ymdebygu, fel y soniodd y Gweinidog, i ddeddfwriaeth debyg a luniwyd yn Lloegr ac yn yr Alban hefyd. Er y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru, wrth lunio'r ddeddfwriaeth hon, fod yn wyliadwrus o'r cyfyngiadau a osodwyd arni gan ofynion ailddosbarthu, rwy'n credu y gallai nifer o welliannau, yn arbennig gwelliannau yn ymwneud ag ymgynghori â thenantiaid, fod yn gryfach, ac adlewyrchwyd hynny yn ymdrechion clodwiw iawn David Melding yn hynny o beth.
Yn dechnegol, rydym yn troi cymdeithasau tai yn gwmnïau preifat neu rywbeth sy'n ymdebygu o bosibl i fentrau cymdeithasol. Nid oes unrhyw sicrwydd na allai natur sylfaenol y cymdeithasau tai yng Nghymru newid dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i elfennau yn y Bil hwn, felly roeddwn yn siomedig nad oedd mwy o bwyslais ar graffu ar ôl deddfu yn rhan o'r Bil terfynol, ond rwy'n siŵr y bydd Aelodau'r Cynulliad ar yr ochr hon i'r Siambr, ac eraill mae'n siŵr, yn cadw llygad barcud ar y datblygiadau, ac yn hoffi monitro'r hyn sy'n digwydd yn sgil pasio'r Bil hwn. Hoffem sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn ymdreiddio i'r elfen benodol hon o'r ddeddfwriaeth. Yn arbennig, yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi clywed pryderon a godwyd gan Shelter, er enghraifft, o ran y codiadau cyflog blynyddol o oddeutu 3 y cant gan landlord cymdeithasol penodol, tra bod rhenti mewn gwirionedd yn cynyddu i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi, yn enwedig yn sgil diwygio lles. Felly, ni fyddwn yn dymuno gweld gormod o hynny'n digwydd os yw rhenti yn mynd i barhau i godi, felly mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni gadw llygad arno o ran newidiadau i ddeddfwriaeth.
Ond, fel yr wyf wedi'i ddweud, rydym yn bwriadu cefnogi'r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth, gan obeithio, fodd bynnag, y bydd y Gweinidog yn parhau i sgwrsio gyda phobl fel fi ar feinciau'r wrthblaid ynghylch hawliau tenantiaid, o ran sut y gallwn ni ymgysylltu'n fwy cadarnhaol â nhw er mwyn iddyn nhw deimlo'n rhan o'r broses, a pherchnogaeth o'r broses, oherwydd maen nhw yn rhan annatod o'r modd y byddwn ni'n datblygu'r sector.