8. Dadl Cyfnod 4 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

– Senedd Cymru am 6:32 pm ar 8 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:32, 8 Mai 2018

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar Gyfnod 4 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i wneud y cynnig—Rebecca Evans.  

Cynnig NDM6717 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:33, 8 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael cynnig y cynnig ac agor dadl Cyfnod 4 ar gyfer Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am y gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y Bil hwn, ac am y gwaith craffu sydd wedi ei wneud drwy gydol hynt y Bil. Hoffwn ddiolch i is-bwyllgor y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, yn ogystal â'r pwyllgor ei hun, ac i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu ystyriol o'r Bil. Roedd llawer o randdeiliaid hefyd wedi gwneud cyfraniad pwysig at y broses ddeddfwriaethol, ac yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, hoffwn gofnodi fy niolch i'r tîm ymrwymedig o swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi bod mor ddiwyd yn eu cefnogaeth, ac wedi fy ngalluogi i ddatblygu'r Bil i'r pwynt hwn. 

Cafodd y Bil ei gyflwyno mewn ymateb i benderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gorfforaethau anariannol cyhoeddus at ddibenion ystadegol yn 2016. Fe allai'r penderfyniad cyfrifyddu technegol hwn fod wedi peryglu targed Llywodraeth Cymru o adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yr oedd angen dybryd amdanyn nhw yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Mae'r ailddosbarthiad yn golygu bod benthyca gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a hwnnw'n fenthyca hanesyddol a chyfredol, yn cael ei gynnwys yn y cyfrifon cyhoeddus ac yn sgorio yn erbyn cyllidebau Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid inni ddod o hyd i £1 biliwn o gyllid ychwanegol dros y tymor Cynulliad hwn i dalu'r costau hyn, a fyddai wedi cael effaith ddifrifol ar ein cynlluniau gwario presennol, neu fe fyddai'n rhaid inni fod wedi cwtogi ein rhaglen tai fforddiadwy, ac felly darparu llai o lawer o gartrefi.

Nid oedd yr un o'r dewisiadau hyn yn dderbyniol i Lywodraeth Cymru, sydd yn ymrwymedig i gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael yng Nghymru. Mae'r Bil hwn yn gwneud newidiadau a fydd yn caniatáu i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol adolygu ei phenderfyniad dosbarthu, ac yn caniatáu i'r trefniadau ariannu cyfredol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gael eu cynnal yng Nghymru. Mae deddfwriaeth debyg wedi ei phasio yn Lloegr. Mae'r Bil yn cyflwyno darpariaethau sy'n diwygio'r rheolaethau llywodraeth ganolog a llywodraeth lleol a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r rhain yn cynnwys darpariaethau ar gyfer gwaredu tir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, newidiadau cyfansoddiadol a strwythurol penodol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a dylanwad awdurdodau lleol dros landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac mae'n egluro pryd y gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio pwerau yn ymwneud ag ymchwiliadau, gorfodi ac ymyrraeth mewn cysylltiad â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Mae'r broses graffu wedi bod yn drylwyr iawn ac mae'r gofynion i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ymgynghori â'u tenantiaid cyn gwneud newidiadau strwythurol penodol wedi'u cryfhau o ganlyniad. Rwy'n ailddatgan drwy hyn fy ymrwymiad i sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd y broses reoleiddio, a pha mor bwysig yw hi i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wrando ar eu tenantiaid. Ac mae tenantiaid wrth wraidd y broses reoleiddio. Ym mis Rhagfyr 2016, lansiwyd fframwaith rheoleiddio newydd sy'n cymryd i ystyriaeth y newidiadau y byddai'r Bil hwn yn eu cyflwyno. Gall tenantiaid, Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid eraill fod yn sicr y bydd rheoleiddio cadarn, gan gynnwys ymyrraeth a phwerau gorfodi, yn parhau ac na fydd yn diflannu.

Yn olaf, Llywydd, hoffwn ddweud pa mor falch y byddai Carl Sargeant o weld y Bil hwn yn cyrraedd ei gyfnod terfynol, gan mai ef oedd y Gweinidog a gyflwynodd y Bil i'r Cynulliad. Felly, rwyf wrth fy modd o allu helpu i'w lywio drwy ei gamau terfynol tuag at y llyfr statud i Gymru.

Photo of David Melding David Melding Conservative 6:36, 8 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae hi er budd y cyhoedd fod y Bil hwn yn cael cefnogaeth heddiw. O ystyried penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ddosbarthiad landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, mae'n rhaid inni weithredu. Ers y cychwyn cyntaf, rydym wedi derbyn egwyddor y Bil hwn ar yr ochr hon i'r Cynulliad, fodd bynnag, rydym wedi ceisio craffu arno fel darn o ddadreoleiddio sylweddol, ond angenrheidiol. O ganlyniad, mae'n ofynnol i sicrhau rheolaeth risg drylwyr. Nod ein gwelliannau yng Nghyfnod 3 oedd cryfhau'r Bil yn hyn o beth, ac mae'n ofid i mi na chawsant gefnogaeth y Cynulliad. Er fy mod i'n croesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, yn unol â'n gwaith craffu ni, i wella cyfranogiad tenantiaid, maen nhw'n methu o bell ffordd â diwallu ein cynigion ni.

Mae'n amser symud ymlaen a bodloni ar y dylid derbyn Bil sy'n 'ddigon da'. Bydd y Bil, fel y caiff ei gyflwyno yn awr, yn sicrhau'r statws annibynnol sydd ei angen i wrthdroi penderfyniad dosbarthu blaenorol y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Drwy hyn, bydd y ffordd yn glir unwaith yn rhagor i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig barhau â'u gwaith pwysig o adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol. Drwy wneud statws y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn glir, bydd buddsoddwyr yn hyderus nad yw trefniadau llywodraethu yn caniatáu ar gyfer ymyrraeth gyhoeddus. Ar y sail hon, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio dros y cynnig hwn sydd gerbron y Cynulliad heddiw.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 6:38, 8 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Byddwn ni'n cefnogi pasio'r Bil hwn yn y cyfnod olaf heddiw. Rydym yn cydnabod, oherwydd ailddosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fod hwn yn ddarn angenrheidiol o ddeddfwriaeth ac rydym yn nodi bod y Bil, ar ei ffurf derfynol, yn ymdebygu, fel y soniodd y Gweinidog, i ddeddfwriaeth debyg a luniwyd yn Lloegr ac yn yr Alban hefyd. Er y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru, wrth lunio'r ddeddfwriaeth hon, fod yn wyliadwrus o'r cyfyngiadau a osodwyd arni gan ofynion ailddosbarthu, rwy'n credu y gallai nifer o welliannau, yn arbennig gwelliannau yn ymwneud ag ymgynghori â thenantiaid, fod yn gryfach, ac adlewyrchwyd hynny yn ymdrechion clodwiw iawn David Melding yn hynny o beth.

Yn dechnegol, rydym yn troi cymdeithasau tai yn gwmnïau preifat neu rywbeth sy'n ymdebygu o bosibl i fentrau cymdeithasol. Nid oes unrhyw sicrwydd na allai natur sylfaenol y cymdeithasau tai yng Nghymru newid dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i elfennau yn y Bil hwn, felly roeddwn yn siomedig nad oedd mwy o bwyslais ar graffu ar ôl deddfu yn rhan o'r Bil terfynol, ond rwy'n siŵr y bydd Aelodau'r Cynulliad ar yr ochr hon i'r Siambr, ac eraill mae'n siŵr, yn cadw llygad barcud ar y datblygiadau, ac yn hoffi monitro'r hyn sy'n digwydd yn sgil pasio'r Bil hwn. Hoffem sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn ymdreiddio i'r elfen benodol hon o'r ddeddfwriaeth. Yn arbennig, yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi clywed pryderon a godwyd gan Shelter, er enghraifft, o ran y codiadau cyflog blynyddol o oddeutu 3 y cant gan landlord cymdeithasol penodol, tra bod rhenti mewn gwirionedd yn cynyddu i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi, yn enwedig yn sgil diwygio lles. Felly, ni fyddwn yn dymuno gweld gormod o hynny'n digwydd os yw rhenti yn mynd i barhau i godi, felly mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni gadw llygad arno o ran newidiadau i ddeddfwriaeth.

Ond, fel yr wyf wedi'i ddweud, rydym yn bwriadu cefnogi'r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth, gan obeithio, fodd bynnag, y bydd y Gweinidog yn parhau i sgwrsio gyda phobl fel fi ar feinciau'r wrthblaid ynghylch hawliau tenantiaid, o ran sut y gallwn  ni ymgysylltu'n fwy cadarnhaol â nhw er mwyn iddyn nhw deimlo'n rhan o'r broses, a pherchnogaeth o'r broses, oherwydd maen nhw yn rhan annatod o'r modd y byddwn ni'n datblygu'r sector.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:40, 8 Mai 2018

Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans. 

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Credaf fod y ddadl derfynol hon wedi dangos pa mor gadarn y bu'r broses graffu  drwy gydol hynt y Bil hyd yma, a lefel y diddordeb a gafwyd, a difrifoldeb yr Aelodau wrth gyflawni eu swyddogaethau o ran craffu ar y Bil hwn. Rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn. Felly, rwyf yn gofyn i'r  Aelodau gefnogi'r cynnig a chefnogi'r Bil, sydd, fel y byddai David Melding a Bethan Sayed ill dau yn cydnabod, ac fel y mae'r ddau wedi'i ddweud, yn sicr yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig barhau i fenthyca er mwyn buddsoddi mewn cartrefi newydd ac yn eu stoc bresennol, ond yn ogystal â hynny, i barhau i wneud y gwaith a'r buddsoddiad pwysig a wnânt mewn cymunedau hefyd: darparu hyfforddiant hanfodol, cyflogaeth, buddion cymdeithasol ac economaidd ac ati. A rhoddaf fy ymrwymiad i barhau gydag Aelodau y drafodaeth yr ydym ni wedi'i dechrau o ran cyfranogiad tenantiaid. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:41, 8 Mai 2018

Diolch i'r Gweinidog. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.5, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly rydw i'n symud i'r bleidlais ar y cynnig yma. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe wnawn ni agor y bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans ar Gyfnod 4 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yn cael ei gymeradwyo. 

NDM6717 - Dadl Cyfnod 4 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru): O blaid: 49, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Rhif adran 805 NDM6717 - Dadl Cyfnod 4 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Ie: 49 ASau

Absennol: 11 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:40, 8 Mai 2018

Dyna ddiwedd ein trafodion am y dydd. 

Daeth y cyfarfod i ben am 18:42.