Part of the debate – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael cynnig y cynnig ac agor dadl Cyfnod 4 ar gyfer Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am y gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y Bil hwn, ac am y gwaith craffu sydd wedi ei wneud drwy gydol hynt y Bil. Hoffwn ddiolch i is-bwyllgor y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, yn ogystal â'r pwyllgor ei hun, ac i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith craffu ystyriol o'r Bil. Roedd llawer o randdeiliaid hefyd wedi gwneud cyfraniad pwysig at y broses ddeddfwriaethol, ac yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, hoffwn gofnodi fy niolch i'r tîm ymrwymedig o swyddogion Llywodraeth Cymru sydd wedi bod mor ddiwyd yn eu cefnogaeth, ac wedi fy ngalluogi i ddatblygu'r Bil i'r pwynt hwn.
Cafodd y Bil ei gyflwyno mewn ymateb i benderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gorfforaethau anariannol cyhoeddus at ddibenion ystadegol yn 2016. Fe allai'r penderfyniad cyfrifyddu technegol hwn fod wedi peryglu targed Llywodraeth Cymru o adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yr oedd angen dybryd amdanyn nhw yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Mae'r ailddosbarthiad yn golygu bod benthyca gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a hwnnw'n fenthyca hanesyddol a chyfredol, yn cael ei gynnwys yn y cyfrifon cyhoeddus ac yn sgorio yn erbyn cyllidebau Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid inni ddod o hyd i £1 biliwn o gyllid ychwanegol dros y tymor Cynulliad hwn i dalu'r costau hyn, a fyddai wedi cael effaith ddifrifol ar ein cynlluniau gwario presennol, neu fe fyddai'n rhaid inni fod wedi cwtogi ein rhaglen tai fforddiadwy, ac felly darparu llai o lawer o gartrefi.
Nid oedd yr un o'r dewisiadau hyn yn dderbyniol i Lywodraeth Cymru, sydd yn ymrwymedig i gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael yng Nghymru. Mae'r Bil hwn yn gwneud newidiadau a fydd yn caniatáu i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol adolygu ei phenderfyniad dosbarthu, ac yn caniatáu i'r trefniadau ariannu cyfredol ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gael eu cynnal yng Nghymru. Mae deddfwriaeth debyg wedi ei phasio yn Lloegr. Mae'r Bil yn cyflwyno darpariaethau sy'n diwygio'r rheolaethau llywodraeth ganolog a llywodraeth lleol a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r rhain yn cynnwys darpariaethau ar gyfer gwaredu tir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, newidiadau cyfansoddiadol a strwythurol penodol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a dylanwad awdurdodau lleol dros landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac mae'n egluro pryd y gall Gweinidogion Cymru ddefnyddio pwerau yn ymwneud ag ymchwiliadau, gorfodi ac ymyrraeth mewn cysylltiad â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Mae'r broses graffu wedi bod yn drylwyr iawn ac mae'r gofynion i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ymgynghori â'u tenantiaid cyn gwneud newidiadau strwythurol penodol wedi'u cryfhau o ganlyniad. Rwy'n ailddatgan drwy hyn fy ymrwymiad i sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd y broses reoleiddio, a pha mor bwysig yw hi i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wrando ar eu tenantiaid. Ac mae tenantiaid wrth wraidd y broses reoleiddio. Ym mis Rhagfyr 2016, lansiwyd fframwaith rheoleiddio newydd sy'n cymryd i ystyriaeth y newidiadau y byddai'r Bil hwn yn eu cyflwyno. Gall tenantiaid, Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid eraill fod yn sicr y bydd rheoleiddio cadarn, gan gynnwys ymyrraeth a phwerau gorfodi, yn parhau ac na fydd yn diflannu.
Yn olaf, Llywydd, hoffwn ddweud pa mor falch y byddai Carl Sargeant o weld y Bil hwn yn cyrraedd ei gyfnod terfynol, gan mai ef oedd y Gweinidog a gyflwynodd y Bil i'r Cynulliad. Felly, rwyf wrth fy modd o allu helpu i'w lywio drwy ei gamau terfynol tuag at y llyfr statud i Gymru.