Part of the debate – Senedd Cymru am 6:41 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch i'r Gweinidog. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.5, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly rydw i'n symud i'r bleidlais ar y cynnig yma. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, fe wnawn ni agor y bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans ar Gyfnod 4 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru). Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yn cael ei gymeradwyo.