Gwasanaethau Swyddfa Bost yn Arfon

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:05, 9 Mai 2018

Fe gaewyd y swyddfa bost ym Mangor Uchaf yn ddirybudd ychydig wythnosau yn ôl, gan olygu bod busnesau, myfyrwyr a thrigolion lleol yn gorfod dibynnu ar wasanaeth symudol mewn maes parcio sydd ond ar gael am awr yr wythnos. Mae hwnnw yn gyfan gwbl annerbyniol. Mae'n hanfodol bod gan y swyddfa bost ym Mangor Uchaf gartref parhaol i'r dyfodol. Rwy'n derbyn nad ydy o yn fater wedi'i ddatganoli, ond mae yna ddyletswydd ar y Llywodraeth yma i sicrhau bod Swyddfa'r Post yn cyflenwi gwasanaethau priodol i ddinasyddion ar draws Cymru. Rydw i'n siŵr eich bod chi'n cytuno efo hynny.