Mercher, 9 Mai 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae polisi cynllunio yn rhoi ystyriaeth i'r farchnad leol wrth ganiatáu datblygiadau tai? OAQ52146
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd aer yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52125
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu tir amaethyddol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52142
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd tuag at wneud dinas ranbarth Bae Abertawe yn ardal hunangynhaliol o ran ynni? OAQ52123
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amddiffynfeydd arfordirol a chynlluniau lliniaru llifogydd ym Mro Morgannwg? OAQ52132
7. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o sut y gall datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial helpu Cymru wledig? OAQ52114
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithredu Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014? OAQ52135
9. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i'r galw am asesiad o effaith amgylcheddol llosgydd biomas y Barri? OAQ52131
Mae'r cwestiynau nesaf felly i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, a'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am allanoli gwasanaethau yn y sector gyhoeddus? OAQ52116
3. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu asesu a gynhaliwyd trafodaethau ystyrlon ar bolisi cyfiawnder gyda Llywdoraeth y DU, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar 6 Ebrill 2018? OAQ52140
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adborth a gafwyd gan lywodraeth leol yn dilyn cyhoeddiad y papur gwyrdd, Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl? OAQ52115
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni nodau llesiant drwy wasanaethau cyhoeddus? OAQ52138
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i geisio datganoli gweinyddu lles? OAQ52145
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am waith Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau swyddfa bost yn Arfon? OAQ52136
9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddiwygio llywodraeth leol yng ngorllewin Cymru? OAQ52113
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol: dau gwestiwn, a'r cyntaf ohonyn nhw gan Suzy Davies.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn penderfyniad Virgin Media i gau ei ganolfan alwadau yn Abertawe gan arwain at golli dros 700 o swyddi? 166
2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y cynnig arfaethedig i ganoli swyddi presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystâd ddiwydiannol Trefforest? 169
Eitem 4 yw'r datganiadau 90 eiliad, a daw'r cyntaf yr wythnos hon gan Vikki Howells.
Yr eitem nesaf yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, prentisiaethau yng Nghymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Russell George.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliannau 2 a 3 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, gwelliant 2 yn enw Julie James, a gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu...
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r bleidlais. Ac felly, mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig...
Mae'r ddadl fer yn cael ei chynnig gan David Melding, tai yn Cymoedd—treftadaeth y mae gwerth buddsoddi ynddi. Ac rydw i'n galw ar David Melding.
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i reoleiddio asiantiaid eiddo ac asiantiaid rheoli eiddo?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu prosiectau cynhyrchu ynni yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia