Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 9 Mai 2018.
Cyhoeddais ddiweddariad ar y mater hwn i'r Aelodau ddydd Gwener. Mae hwn yn newyddion siomedig iawn, ac rwy'n cydymdeimlo â'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan benderfyniad y cwmni. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion sefydlu tasglu er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl ar gyfer y gweithwyr yr effeithiwyd arnynt gan y penderfyniad corfforaethol hwn.