Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 9 Mai 2018.
Mae Dai Lloyd yn iawn i gyfeirio at forlyn llanw bae Abertawe fel prosiect a allai gynnig, ac a ddylai gynnig, swyddi o ansawdd uchel. Holl bwynt y cynllun gweithredu economaidd yw creu mwy o gyfleoedd cyflogaeth mwy diogel, o ansawdd gwell, sy'n talu'n well. A chredaf fod cyhoeddiad Virgin Media yn dangos pam fod angen i ni (a) sbarduno diwydiannau'r dyfodol, ond sicrhau hefyd ein bod yn diogelu'r cyflogwyr presennol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Dyna pam rydym wedi dechrau gwaith, astudiaeth, ar ddigido ac awtomeiddio yn economi Cymru. Dyna pam fod un o'r galwadau i weithredu'n ymwneud â diogelu busnesau ar gyfer y dyfodol, ac felly rydym yn gwbl benderfynol o sicrhau bod swyddi presennol yn cael eu cadw, fod busnesau'n cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol, yn barod am y newid anochel a ddaw o fewn y degawd nesaf, ond hefyd ein bod yn canolbwyntio ar greu swyddi newydd mewn meysydd gweithgarwch economaidd sy'n gynaliadwy yn y tymor hir.
Credaf fod Dai yn codi cwestiwn pwysig ynglŷn â chysylltiadau, nid yn unig rhwng y Llywodraeth a busnesau, ond hefyd rhwng undebau llafur a busnesau, a hefyd grwpiau rhanddeiliaid a busnesau. Mae'r ffaith bod y busnes penodol hwn heb undeb a bod Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru heb gael gwybod am y penderfyniad yn dangos bod hwn yn benderfyniad y dymunai'r busnes ei gadw iddynt eu hunain am resymau masnachol sensitif hyd nes y cafodd y cyfryngau eu hysbysu. Ond fel y dywedais mewn ymateb i Suzy Davies, nid wyf yn credu bod honno'n ffordd deg i drin eu gweithwyr eu hunain.
Mae yna 772 o bobl sydd wedi dangos teyrngarwch mawr i'r busnes. Mae 220 wedi'u hisgontractio i Sitel. Nawr, ni fuaswn yn dymuno codi gobeithion ormod ar hyn o bryd, ond rwyf wedi gofyn i fy swyddogion edrych ar y potensial i Sitel aros yn Abertawe. Rydym yn gobeithio y bydd Virgin Media yn cefnogi hyn ac y bydd yn parhau gyda'r trefniadau presennol, efallai, gan y byddai cynnig interim yn arbennig o ddefnyddiol wrth geisio sicrhau cynifer o'r swyddi hynny ag y bo modd. Er hynny, byddwn yn cynnig gwasanaethau cyfeirio, i'r Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru yn bennaf—yn sicr, dyna'r ddwy asiantaeth y buaswn yn awgrymu y dylai'r Aelod gyfeirio ei etholwyr atynt yn y lle cyntaf. Ond rwyf hefyd yn obeithiol y bydd Virgin Media yn caniatáu i weithdai gael eu cynnal ar y safle, gan gynnwys y partneriaid a fydd yn ffurfio'r tasglu. Caniatawyd hynny ar y safle gan Tesco pan wnaethant y penderfyniad y llynedd, ac fe wnaeth wahaniaeth enfawr o ran sicrhau bod pobl yn gallu dod o hyd i swydd arall yn dilyn eu gwaith yn Tesco, ac roedd hefyd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol iawn o ran lleihau'r niwed emosiynol o ganlyniad i ddiswyddiadau. Felly, rwy'n obeithiol y bydd Virgin Media yn derbyn ein cais i ganiatáu i bartneriaid y tasglu fynd ar y safle a chynnig gweithdai gwerthfawr i'r bobl yr effeithir arnynt gan y penderfyniad hwn ar sut i ddod o hyd i waith a sut i wneud yn siŵr fod eu lles yn cael ei ddiogelu yn y cyfamser.