Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Dros y 15 mis diwethaf, fwy neu lai, mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi bod ag obsesiwn braidd gyda phrentisiaethau. Yn ychwanegol at yr adroddiad rydym yn ei drafod heddiw, rydym hefyd wedi adrodd ar gyflwyno ardoll prentisiaethau Llywodraeth y DU, ac yn y mis diwethaf yn unig buom yn craffu ar waith y Gweinidog eto, gan asesu effaith yr ardoll honno un flwyddyn ers ei chychwyn. Rydym wedi neilltuo llawer o amser y pwyllgor ar brentisiaethau am ein bod yn credu eu bod yn bwysig. Mae prentisiaethau'n bwysig: maent yn cynnig ffordd wych i bobl ennill cyflog wrth iddynt ddysgu ac i gyflogwyr fuddsoddi yn y sgiliau y mae eu busnesau eu hangen. Er ein bod wedi galw'r gwaith hwn yn 'ymchwiliad i brentisiaethau', roedd y cylch gorchwyl yn weddol eang ac yn caniatáu inni edrych ar faterion sy'n codi gan gynnwys cyngor ar yrfaoedd ac agweddau ar hyfforddiant galwedigaethol yn gyffredinol. Rwy'n siŵr y bydd y ddadl heddiw yr un mor bellgyrhaeddol.
Yn fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar yr apêl allweddol y mae'r pwyllgor wedi'i chyhoeddi. Yn ein tystiolaeth, clywsom gan ddarparwyr, prentisiaid a phobl ifanc nad oedd wedi dilyn y llwybr hwnnw, a chlywsom nifer o weithiau fod rhwystrau economaidd—cost teithio, y gost o brynu siwt ar gyfer cyfweliad, ac ati—yn gallu atal pobl ifanc rhag manteisio ar gyfleoedd, a'n hymateb ni i hyn oedd holi'r Llywodraeth beth y gallant ei wneud, a gwnaethom ddau argymhelliad yn hynny o beth. Ein hargymhelliad 6 oedd y dylai Llywodraeth Cymru greu cronfa galedi gystadleuol ar gyfer prentisiaid ar y lefelau cyflog isaf, neu greu consesiynau eraill, megis cardiau bws neu reilffyrdd rhatach, fel sy'n bodoli ar gyfer myfyrwyr eraill.
Ein hargymhelliad 7 oedd y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu grant cyffredinol ar gyfer costau byw i bob prentis, fel sydd i fod ar gael ar gyfer myfyrwyr prifysgol yng Nghymru o 2018-19. Wrth wraidd y ddadl hon, rwy'n credu, wrth wraidd y cwestiwn hwn, y mae tegwch. A chredaf y ceir cytundeb cyffredinol ar draws y Siambr hon ein bod yn ystyried dysgu academaidd a galwedigaethol yn gyfartal—y ceir cydraddoldeb rhwng y ddau lwybr. Ond yr hyn nad ydym wedi'i gyflawni eto yw cydraddoldeb o ran cymorth i'r myfyrwyr sy'n dilyn y ddau lwybr. Felly, credaf fod yna achos moesol cryf a grymus dros weld Llywodraeth Cymru yn cynnig lefelau tebyg o gymorth i brentisiaid ag a fyddai ar gael i'w cyfoedion mewn addysg uwch amser llawn.
Mewn hysbysebion i hybu ei phecyn newydd o fesurau ar gyfer myfyrwyr prifysgol, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan mai dyma'r pecyn cymorth mwyaf hael i fyfyrwyr yn y DU a'r lefel o gymorth y gall pobl ifanc sy'n mynd i'r brifysgol ei ddisgwyl. Rwy'n mynd i'w ddweud eto: y pecyn cymorth mwyaf hael yn y DU. Felly, heddiw, rwyf am ddefnyddio'r cyfle hwn yn y ddadl i alw am becyn cymorth yr un mor hael ar gyfer prentisiaid Cymru.