Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ganolbwyntio ar y cymorth sydd ar gael i'r Llywodraeth a'r bobl rydych eisoes yn gweithio gyda hwy i chwalu rhai o'r canfyddiadau ynglŷn â sut beth yw prentis, a sut beth yw prentisiaeth. Mae gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil raglen ysgol wych sy'n cynnwys adeiladu pont, ac maent yn mynd â hi o gwmpas yr ysgolion i roi cyfle go iawn i fyfyrwyr wneud pethau ymarferol. Mae gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu gynlluniau tebyg hefyd.
Yr hyn a ddaeth yn amlwg imi o'r dystiolaeth a gasglwyd gennym, i ddilyn yr hyn a ddywedodd Vikki, oedd bod pobl mewn ardaloedd lle roedd prentisiaethau'n weddol amlwg, megis mewn diwydiant lleol, boed yn waith ynni neu awyrofod neu unrhyw beth arall, yn gwbl ymwybodol, roedd eu rhieni'n gwbl ymwybodol, ac roeddent yn cymryd rhan yn y cyfleoedd roedd prentisiaethau'n eu cynnig. Ond po bellaf y byddech yn symud o leoliadau daearyddol o'r fath, y lleiaf o ymwybyddiaeth a geid, felly mae hynny'n rhoi'r cyfrifoldeb yn gadarn ar eraill i helpu i godi ac annog a hyrwyddo prentisiaethau yn y cymunedau hynny.
Mae arloesi gwirioneddol yn digwydd mewn cyfleoedd sy'n bodoli eisoes. Er enghraifft, mae yna arloesi anferth yn digwydd yn y diwydiant adeiladu nad yw wedi ei ddeall yn llawn, ac nid yw wedi ei ddeall yn llawn gan y bobl sy'n ceisio helpu disgyblion i ddeall y cyfleoedd hynny. A phe bai wedi ei ddeall yn llawn, credaf y gallem ddileu'r bwlch rhwng y rhywiau yn y diwydiant hwnnw dros nos bron. Felly, yr hyn rwy'n ei ofyn i chi, Weinidog, yw hyn: i geisio ymgysylltu â'r bobl nad ydynt ar hyn o bryd o fewn yr ysgolion, gyda'r diwydiannau eu hunain, ac adrodd yn ôl wrth y bobl a ddylai fod yn rhoi cyngor gyrfaoedd am yr arloesedd a'r posibiliadau o fewn y strwythur prentisiaethau sydd ar gael ar hyn o bryd, ond sy'n newid yn gyflym.