Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch. Roeddwn yn gwrando ar sylwadau Siân Gwenllian yn gynharach, a soniodd am adroddiad y Pwyllgor Economi a Busnes yn 2012. Efallai mai fi yw un o'r ychydig bobl sy'n dal i feddu ar gopi ohono yn fy wardrob i fyny'r grisiau, ac nid yw argymhellion 16 ac 17 yn union yr un fath air am air, ond maent yn dweud yr hyn rydych chi newydd ei ddweud yn union, Weinidog:
Darparu hyfforddiant cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar gyfer cynghorwyr gyrfaoedd ac addysgwyr i gywiro unrhyw stereoteipio yn y cyngor a roddant.
Roedd hynny chwe blynedd yn ôl bellach, mewn gwirionedd, Siân. Yn amlwg, rydym yn dal i ymdrin â'r problemau hynny. A allwch ddweud wrthym beth rydych yn mynd i'w wneud i sicrhau nad ydym yn dal i wynebu'r un broblem ymhen chwe blynedd arall?