Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 9 Mai 2018.
Ein gwaith yng Nghymru a rhaglenni prentisiaeth, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, yw ceisio ail-lunio'r dirwedd sgiliau er mwyn newid y ffaith, fel y nododd Mohammad Asghar, fod angen inni ateb heriau'r economi newydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ei bod yn un o'n rhaglenni blaenllaw yn Llywodraeth Cymru. Mae gennym darged o 100,000 o brentisiaethau newydd o safon uchel, a nod hynny yw cynhyrchu twf a buddsoddiad. Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod yn cyrraedd y targed hwnnw; rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd yr amcanestyniad hwnnw.
Rydym yn gweld twf yn nifer y prentisiaethau yma yng Nghymru, tra'n gweld beth sydd wedi digwydd yn Lloegr oherwydd cyflwyno'r ardoll brentisiaethau—ardoll a gyflwynwyd heb ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru o gwbl. Yr hyn a welsom yno yw gostyngiad o 40 y cant yn nifer y prentisiaethau, yn ôl y felin drafod Reform yn Lloegr. Felly, rydym yn gwneud yn llawer gwell nag y maent yn ei wneud yn Lloegr, ond gadewch imi ei gwneud yn glir nad diddordeb mewn niferoedd yn unig sydd gennym, ac rwy'n credu mai dyna'r camgymeriad a wnaeth Lloegr.
Ni fyddwn yn gwanhau ac yn israddio brand prentisiaeth yma yng Nghymru, gan mai'r hyn sydd gennych yn Lloegr yw baristas yn gweini coffi sydd wedi cael prentisiaethau, neu bobl yn cael y teitl prentis pan fyddant ar gyflogau isel iawn gyda'r posibilrwydd, os ydynt yn ffodus, o gael swydd yn yr economi gig o bosibl. Nid dyna'r math o beth rydym yn anelu ato yma yng Nghymru. Felly, ein diddordeb yw moderneiddio prentisiaethau i ddiwallu anghenion sy'n newid yn yr economi a gwella ansawdd a pherthnasedd prentisiaethau.